Nifer yr eitemau: 134
, wrthi'n dangos 101 i 120.
Penmaenmawr
Tafarn wledig draddodiadol gyda chroeso cynnes Cymreig yng nghanol Dwygyfylchi.
Llandudno
Tafarn brysur â bwyd da a chwrw go iawn i deuluoedd yng nghanol Llandudno.
Betws-y-Coed
Alpine Coffee Shop and Gallery yw un o gaffis mwyaf poblogaidd Gogledd Cymru. Wedi’i leoli yng ngorsaf reilffordd Betws-y-Coed yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri, mae’n brysur trwy gydol y flwyddyn.
Llandudno
Mae The Loaf Coffee & Sandwich Bar yn arbenigo mewn coffi arbennig, cacennau cartref a bwyd hyfryd mewn awyrgylch cynnes a chartrefol.
Penmaenmawr
Caffi bach cyfeillgar wedi’i leoli yng nghanol Penmaenmawr yn gweini bwyd wedi’i goginio’n ffres.
Llandudno
Mwynhewch de prynhawn traddodiadol, brecwast hwyr neu ginio yng nghanol Llandudno yn y busnes teuluol hwn.
Llanrwst
Mae Tu Hwnt i’r Bont yn adeilad rhestredig Gradd II o’r 15fed Ganrif ac yn ystafell de yn Llanrwst. Mae bwthyn adnabyddus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn sefyll ar lan Afon Conwy, yr ochr draw i’r Bont Fawr.
Conwy
Wedi’i leoli yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy, mae Cantîn yn gweini coffi, brecwast, cinio, cacennau a mwy!
Betws-y-Coed
Cafodd Caffi Conwy Falls ei ddylunio gan Syr William Clough Ellis i gyd-fynd â saernïaeth Portmeirion. Mae wedi’i leoli ym Mharc Coedwig Conwy Falls sydd bron i 10 erw o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Betws-y-Coed
Mae bwydlen bwyty Bridge wedi'i neilltuo ar gyfer cynnyrch lleol a thymhorol. Mae Bar 1815 yn gartref i ddetholiad anhygoel o jin o bedwar ban byd gyda nodwedd amlwg ar jin o Gymru.
Rhos-on-Sea
Beth bynnag yr ydych yn chwilio amdano, o frecwast cynnar i ginio hwyr neu fyrbryd ysgafn i ginio prynhawn, mae’r pryd perffaith ar gael i chi.
Colwyn Bay
Caffi yng nghanol Bae Colwyn sydd yn cynnig coffi gwych a bwyd hyfryd, yn cynnwys dewisiadau llysieuol a heb glwten.
Llanrwst
Mae Bar a Bwyty’r Eagles yn arbenigo mewn bwyd Indiaidd, bwyd bar a mwy.
Conwy
P'un a ydych chi'n dod i mewn am goffi neu frecwast i fynd, cinio gyda'r teulu, neu de prynhawn gyda'ch ffrindiau, mae gan L's fwydlen wych o fwyd a diod i'ch denu ar unrhyw adeg o’r dydd.
Abergele
Mae cyfuniad modern o fwyd Cantoneg, Siapaneaidd, Thai a Malaysia yn aros amdanoch yn Sakura.
Llandudno
Nod Mediterranean Restaurant yw ail-greu'r teimlad gwyliau yn syth wrth i chi gamu i mewn i’r bwyty.
Abergele
Rhywle i chi a'ch ffrindiau pedair coes! Cewch eich syfrdanu gan yr holl ddewis o ddanteithion i gŵn sydd gennym i’w cynnig.
Llandudno Junction
Coffi, te dail, cacennau ffres a llawer mwy ar gael i fynd o’n tŷ te a choffi yng Nghyffordd Llandudno.
Llandudno
Mae White Tower yn fwyty Groegaidd yng nghanol Llandudno sy’n gweini bwyd cartref Groegaidd. Caiff pob pryd, salad, dipiau a phwdinau eu paratoi’n ddyddiol yn eu cegin a’u coginio fesul archeb.