I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Nifer yr eitemau: 133
, wrthi'n dangos 61 i 80.
Conwy
Bwyty a chyfleuster bwyd i fynd sydd wedi ennill gwobrau sydd yn gweini bwyd Indiaidd ym mhentref hardd Deganwy.
Conwy
Mae’r Tŷ Crempog Iseldiraidd enwog yn unigryw i’r ardal ac yn cynnig dewis o 65 o grempogau gwahanol, melys a sawrus, wedi’u coginio yn y ffordd draddodiadol gyda chynhwysion ffres.
Llandudno
Y Kings Head yw’r dafarn hynaf yn Llandudno. Rydym yn agos at yr orsaf dramiau ac mae ein gardd gwrw yn llygad yr haul.
Rhos-on-Sea
Tamaid bychan o nefoedd y De ar arfordir Gogledd Cymru yn Llandrillo-yn-Rhos, gyda gardd dawel ar gyfer bwyta a maes parcio mawr.
Conwy
Y perchnogion a’r rheolwyr yw’r Cogydd Gweithredol Jimmy Williams a’i wraig dalentog iawn Louise, ac maent wedi creu un o’r profiadau bwyta gorau ar arfordir Gogledd Cymru.
Conwy
Dim ond y cynnyrch lleol gorau y mae'r Bistro yn ei ddefnyddio i greu prydau cartref. Rydym yn ymfalchïo yn ein cred mai dim ond y gorau fydd yn cael ei weini i'n gwesteion a'n nod yw rhoi profiad bwyta gwirioneddol gofiadwy i chi.
Llandudno
Yn Blue Elephant, rydym wedi taflu’n holl egni ac ymrwymiad i’n gwaith yn y gegin, ac nid oedd hi’n hir iawn cyn i ni greu prydau newydd, sawrus sy’n tynnu dŵr i’r dannedd.
Colwyn Bay
Rydym yn deulu o ynys hardd Madeira ym Mhortiwgal, ac yn Virgilio’s rydym yn dod â blas o Madeira i Fae Colwyn gyda’n bwydlen Portiwgaleg.
Llandudno
Rydyn ni’n gaffi cyfeillgar wedi’i leoli ar Clonmel Street, ddim yn bell o’r môr yn nhref glan môr hardd Llandudno.
Llandudno
Meicro-dafarn yn Llandudno sy’n cynnig cwrw casgen go iawn. Mae Tapps yn far bach, modern a chŵl gydag awyrgylch hamddenol braf.
Upper Colwyn Bay
Does dim byd arbennig am du blaen Pen-y-Bryn, ond y tu mewn fe welwch loriau derw hyfryd, tanau agored, cypyrddau llyfrau a hen ddodrefn.
Llandudno
Mwynhewch de prynhawn traddodiadol, brecwast hwyr neu ginio yng nghanol Llandudno yn y busnes teuluol hwn.
Conwy
Mae coginio ar gerrig poeth yn darparu pryd heb ei ail, lle mae cyfle i chi goginio eich stêc neu eich pysgodyn eich hun ar garreg folcanig wrth eich bwrdd.
Conwy
O fewn muriau tref gaerog ganoloesol Conwy y mae The Jackdaw, bwyty gan y Cogydd Nick Rudge.
Colwyn Bay
Ni fyddai trip i Barc Eirias neu Ganolfan Hamdden Colwyn yn gyflawn heb stopio yn Porter's.
Llanrwst
Mae Bar a Bwyty’r Eagles yn arbenigo mewn bwyd Indiaidd, bwyd bar a mwy.
Llandudno
Mae The Loaf Coffee & Sandwich Bar yn arbenigo mewn coffi arbennig, cacennau cartref a bwyd hyfryd mewn awyrgylch cynnes a chartrefol.
Conwy
Tafarn goetsys Sioraidd draddodiadol yw The Erskine Arms, sy’n swatio o fewn muriau canoloesol Conwy dafliad carreg o gaer ganoloesol fawreddog y Brenin Edward I, Castell Conwy.
Penrhyn Bay
Siop frechdanau/coffi ym Mae Penrhyn sy’n defnyddio cyflenwyr Cymreig lleol.