Nifer yr eitemau: 283
, wrthi'n dangos 201 i 220.
Conwy
Yng nghanol Conwy, mae Pen-y-Bryn yn adeilad traddodiadol o’r unfed ganrif ar bymtheg.
Llanrwst
Rydym ni’n fwyty a lleoliad bwyd i fynd Bangladeshi traddodiadol sydd wedi ennill gwobrau ac wedi'n lleoli yng Ngogledd Cymru, rydym yn ymfalchïo wrth gyflwyno ein cyfeillion Ewropeaidd i fwydydd o isgyfandir India sy’n tynnu dŵr i’r dannedd.
Llanfair Talhaiarn
I brofi’r dafarn goetsys draddodiadol orau, yna rhowch gynnig ar y Black Lion, Llanfair Talhaiarn.
Llandudno
Llety cartrefol, glân a chyfforddus gyda lle parcio oddi ar y stryd ar gyfer pob ystafell. O fewn pellter cerdded byr i’r ddau draeth, canol y dref, y promenâd a’r pier.
Conwy
Bwyd stryd i fynd. Mae bron i bopeth yn cael ei wneud o’r newydd a’i goginio’n defnyddio cynhwysion lleol.
Colwyn Bay
Mae gennym ni 4 cartref modur ar gael i'w llogi o Fae Colwyn yng Ngogledd Cymru, rhai sy’n cysgu 2, 4 neu 6.
Llanrwst
Mae ein cabanau gwyliau hynod o gyfforddus mewn lleoliad heddychlon ger yr afon ac o flaen y mynyddoedd. Rydym yn cynnig cabanau unllawr un, dwy a thair ystafell wely ar gyfer gwyliau hamddenol gartref.
Llandudno
Cyfforddus, modern, eang a dim ond rhai munudau o lan y môr, pier a siopau yw rhai o brif fanteision y llety gwyliau moethus hwn.
Conwy
Mae’r Tŷ Crempog Iseldiraidd enwog yn unigryw i’r ardal ac yn cynnig dewis o 65 o grempogau gwahanol, melys a sawrus, wedi’u coginio yn y ffordd draddodiadol gyda chynhwysion ffres.
Colwyn Bay
Nid yw ymweliad â Conwy Garden World yn gyflawn heb fynd draw i Lavender Tea Rooms.
Llandudno
Beth am roi cynnig ar Barnacles i fwynhau pysgod a sglodion traddodiadol ar lan y môr? Cewch fwyta i mewn neu ddewis bwyd i fynd.
Llanrwst
Mae Bar a Bwyty’r Eagles yn arbenigo mewn bwyd Indiaidd, bwyd bar a mwy.
Llanrwst
Mae Tu Hwnt i’r Bont yn adeilad rhestredig Gradd II o’r 15fed Ganrif ac yn ystafell de yn Llanrwst. Mae bwthyn adnabyddus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn sefyll ar lan Afon Conwy, yr ochr draw i’r Bont Fawr.
Conwy
Wedi’i leoli yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy, mae Cantîn yn gweini coffi, brecwast, cinio, cacennau a mwy!
Llandudno
Mae The Elm Tree yn eiddo 4*, 14 ystafell wely bwtîc, sydd wedi'i leoli yn ddelfrydol gyferbyn â phier eiconig Llandudno, sy'n cynnig golygfeydd godidog o'r Bae a'r Promenâd.
Conwy
Yn edrych allan dros dref gaerog, furiog Conwy, cafodd y bwthyn ei adnewyddu yn 2022. Llety moethus, taith gerdded 2 funud i mewn i Gonwy a gardd hyfryd i’w fwynhau.
Conwy
Yn cynnig coffi da a bwyd blasus yng nghanol tref gaerog ganoloesol Conwy.
Llandudno
Nod Mediterranean Restaurant yw ail-greu'r teimlad gwyliau yn syth wrth i chi gamu i mewn i’r bwyty.
Llandudno
Mae llety gwesteion bwtîc Lansdowne House wedi’i leoli yng nghysgod llethrau'r Gogarth yn Llandudno.
Trefriw
Mae ein Llety Gwely a Brecwast yn rhan o Swyddfa Bost y pentref yng nghanol pentref prydferth Cymreig Trefriw.