Am
Yng nghanol Conwy, mae Pen-y-Bryn yn adeilad traddodiadol o’r unfed ganrif ar bymtheg.
Mae’r lleoliad unigryw a’r adeilad hanesyddol wrth wraidd ein dyluniad. Rydym wedi ceisio ymgorffori’r dyluniad mewnol yn ein bwydlen. Drwy gyfuno lliwiau a gweadau modern â deunyddiau gwledig, rydym wedi creu lleoliad ffasiynol i fwynhau unrhyw beth o frecwast Prosecco ar achlysur arbennig i ddarn o gacen gartref. Ym Mhen-y-Bryn, rydym wedi ceisio adfywio clasuron y tŷ te, ac mae ein bwydlen yn adlewyrchu hynny. Wrth ddathlu ein cacennau a sgons cartref gyda’r te prynhawn traddodiadol, rydym hefyd wedi ychwanegu rhai ffefrynnau modern.
Cyfleusterau
Arlwyo
- Brecwast ar gael
- Cinio ar gael
- Yn gweini te prynhawn
Cyfleusterau Lleoliad
- Cyfleusterau toiled
Nodweddion Darparwr
- Mewn tref/canol dinas
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus