Nifer yr eitemau: 41
, wrthi'n dangos 1 i 20.
Llandudno
Bwyty diweddaraf byd coginiol Gogledd Cymru. Mae’n ofod ffres a thrawiadol lle cewch chi fwynhau ansawdd ac ystryw ciniawa coeth heb yr holl ffaff a ffurfioldeb.
Betws-y-Coed
Mae ein hethos bwyd wedi cael ei ddylanwadu dros y blynyddoedd wrth i fwy o gynhyrchwyr a chyflenwyr anhygoel ddod i’r amlwg yn lleol i werthu, tyfu a magu cynnyrch a da byw Cymru.
Llandudno
Mae Dylans yn Llandudno yn fwyty sy’n addas i deuluoedd sydd wedi’i leoli yn hen westy’r Washington yng Nghraig-y-Don, Llandudno. Wedi’i leoli tuag at ddiwedd promenâd a bae Victoria yn Llandudno mae’n nodwedd eiconig ar lan y môr.
Betws-y-Coed
Mae'r tîm yn ‘The Grill Room’ ar dân i sicrhau eu bod yn gweini cynnyrch ffres lleol, tymhorol.
Betws-y-Coed
Mae’r Stablau ym Metws-y-Coed yn far a bwyty sy’n angerddol am flas a chynnyrch lleol. Lleolir yn nhref drawiadol Betws-y-Coed, a elwir yn Borth Eryri.
Conwy
Cwmni da, bwyd gwych, golygfeydd gwych - Mae ein tafarn deuluol, sydd wedi'i hadnewyddu i’r dim, yn cynnig croeso cynnes i bawb.
Glanwydden
Mae’r Queen's Head yn drysor cudd ym mhentref hyfryd Glanwydden, y tu allan i Landudno a Bae Penrhyn.
Penrhyn Bay
Mae’r café-bar wedi’i leoli reit gyferbyn â’r traeth ym Mae Penrhyn. Rydym ni ar agor ar gyfer brecwast, cinio, byrbrydau, crempogau, te prynhawn a choffi, ond mae ein bar ar agor bob amser os mai diod rydych chi ei awydd.
Colwyn Bay
Dewch i ymuno â ni ym Mar a Gril y Llofft Wair i gael pryd o fwyd blasus, lleol. Perffaith ar gyfer achlysur arbennig!
Colwyn Bay
Caffi hyfryd ym Mae Colwyn gyda bwydlen amrywiol. Ar agor am frecwast, brecinio, cinio a chacennau cartref.
Betws-y-Coed
Mae bwydlen bwyty Bridge wedi'i neilltuo ar gyfer cynnyrch lleol a thymhorol. Mae Bar 1815 yn gartref i ddetholiad anhygoel o jin o bedwar ban byd gyda nodwedd amlwg ar jin o Gymru.
Llandudno
Y Kings Head yw’r dafarn hynaf yn Llandudno. Rydym yn agos at yr orsaf dramiau ac mae ein gardd gwrw yn llygad yr haul.
Rhos-on-Sea
Tafarn a bwyty ar lan y môr sy’n croesawu cŵn a phlant, gyda gardd gwrw fawr yn Llandrillo-yn-Rhos yn gweini bwyd tafarn ffres, blasus.
Llandudno
Meicro-dafarn yng Nghraig-y-Don, Llandudno. Chwaer dafarn i Tapps Micropub, yn cynnig cwrw crefft go iawn.
Llandudno
Wedi’i enwi ar ôl yr impresario theatr lleol Will Catlin, dyma’r lle perffaith i ymlacio a dadflino.
Llandudno
The Cottage Loaf, tafarn wledig draddodiadol yng nghanol tref arfordirol Llandudno.
Conwy
Gyda seddau awyr agored yn edrych dros y marina, mae The Mulberry yn lle gwych i ymlacio a mwynhau pryd o fwyd gyda ffrindiau, teulu, a hyd yn oed y ci!