Gwyliau yn yr Imperial dros y Flwyddyn Newydd
Siampên, cinio 7 cwrs a dawnsio tan yr oriau mân. Gwesty’r Imperial ydi’r lle perffaith ar gyfer eich gwyliau yng Ngogledd Cymru dros y Flwyddyn Newydd! Mae ‘na gymaint o ddisgwyliadau ynghlwm â’r noson felly anghofiwch am y straen o drefnu eich dathliad eich hun, casglwch eich ffrindiau a’ch teulu at ei gilydd a dewch i ddathlu efo ni yn yr Imperial lle rydym wedi gwneud y gwaith caled i gyd drosoch chi. Ar ôl y parti, ewch i orffwys yn un o’n hystafelloedd cysurus a deffro ar ddiwrnod cyntaf 2025 i fwynhau brecwast hwyr blasus wedi’i baratoi’n arbennig ar eich cyfer gan ein cogydd.
O £250 y pen (Telerau ac amodau’n berthnasol): https://www.theimperial.co.uk/new-year-break/