Gwesty’r Royal Oak
Ystafell Gyfarfod
Ffôn: 01690 710219
Ffôn: 01690 710219
Arferai’r Royal Oak fod yn dafarn i goetsis yn Oes Fictoria ac fe saif yng nghanol pentref Betws-y-Coed. Tirlun godidog Eryri o’n cwmpas sydd wedi dylanwadu ar ddyluniad ein hystafelloedd sydd â gwelyau cyfforddus a defnyddiau a dodrefn moethus. Mae gwaith celf a chreiriau hanesyddol lleol yn adrodd hanes yr adeilad a’r bobl sydd wedi aros yma, gan roi gwir synnwyr o le yn y lleoliad hwn sy’n borth i Barc Cenedlaethol Eryri.
Cyfleusterau cyfoes mewn lleoliad canolog gyda Wi-Fi am ddim ymhob rhan o’r adeilad a setiau teledu sgrin fflat yn dangos sianeli Freeview ymhob ystafell. Mae desg/bwrdd ymbincio defnyddiol, ynghyd â sychwr gwallt, cwpwrdd diogel, haearn a bwrdd smwddio a phethau gwneud te a choffi yn gofalu am yr elfennau ymarferol.
Mae dewis o dri o leoedd i fwyta ac mae ein timau yn y gegin yn canolbwyntio ar gynnyrch lleol, tymhorol a ffres ac mae rhywbeth at ddant pawb! Mae ein bar cyfoes ar y safle yn gweini bwyd yn yr awyr agored ac yn cynnal digwyddiadau cerddorol yn rheolaidd.
Mae gan y gwesty ei fwyty ei hun sy’n gweini bwyd lleol hyfryd. Mae’r gwesty yn lle gwych ar gyfer digwyddiadau, o briodasau i gynadleddau busnes. Chwilio am yr anrheg pen-blwydd perffaith? Tretiwch eich anwyliaid i de prynhawn yn y gwesty moethus hwn.
Mae’r gwesty wedi cadw ei naws wreiddiol ac mae’r ystafelloedd wedi’u haddurno’n hardd. Gyda llawer o ddewis a maint ystafelloedd ar gael, mae yna hyd yn oed gwely pedwar postyn mewn ystafell foethus (tretiwch eich hun i benwythnos arbennig, gyda Siampên ar ôl i chi gyrraedd!).
I drefnu lle, ewch i wefan y gwesty (https://royaloakhotel.net/) neu ffoniwch 01690 710219.
Ar agor (1 Ion 2025 - 31 Rhag 2025) |
---|
Mae Amgueddfa Rheilffordd Dyffryn Conwy yn ddiwrnod allan gwych i deuluoedd. Treuliwch…
Adeiladwyd yr eglwys yn y 14eg Ganrif a hwn yw’r adeilad hynaf ym Metws-y-Coed. Mae…
Mae Zip World Fforest wedi’i leoli yng nghanol harddwch Dyffryn Conwy, ychydig y tu allan…
Mae’r Rhaeadr Ewynnol yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol lle mae’r Afon Llugwy’n…
Coedwig o lynnoedd a mynyddoedd yng nghanol Eryri. Mae Parc Coedwig Gwydir yn gartref i…
Teithiau trwy 9.5 erw o goedwig gynhenid at raeadr drawiadol Conwy. Mynediad ar hyd tir…
Cymdeithas Eryri sy’n gofalu am Tŷ Hyll. Mae pwy adeiladodd y tŷ a phryd yn parhau’n…
Dechreuwyd gwaith adeiladu’r capel ym 1673, ac mae tu allan carreg syml y capel yn rhoi…
Mae Castell Gwydir yn dŷ Cymreig hynafol yn harddwch Dyffryn Conwy, ar odre Eryri. Caiff…
Eglwys hanesyddol Gradd I a godwyd yn 1470, sy’n edrych dros afon Conwy yng nghanol…
Er bod Cwm Wybrnant yn fan tawel ac anghysbell heddiw, mae’r lleoliad yn arwyddocaol iawn…
Cadarnle Cymreig aruchel mewn lleoliad mynydd trawiadol. Mae Dolwyddelan mor Gymreig…
Wedi’i leoli yn harddwch Dyffryn Conwy rhwng Trefriw a Dolgarrog, mae Drysle Dyffryn…
Wedi'i amgylchynu gan dirweddau godidog Gogledd Cymru, mae Sba ‘Wave Garden’ ym Mharc…
Mae llyn dwfn naturiol Llyn Aled yng nghanol rhostiroedd uchel Hiraethog. Mae’n safle…
Cartref plentyndod Syr Henry Jones (1852-1922) yw’r amgueddfa. Ganwyd Syr Henry Jones i…