Am
Yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri gyda theithiau cerdded hardd gerllaw, ac o fewn cyrraedd hawdd i bentref Betws-y-Coed. Mae Siabod View wedi’i leoli y drws nesaf i nant fyrlymus gyda golygfeydd anhygoel o Foel Siabod. Ewch am daith gerdded o garreg eich drws ar hyd un o lwybrau niferus y goedwig, neu ewch am dro lawr i Fetws-y-Coed lle mae dewis o lefydd i fwyta.
Cyfleusterau: Popeth ar y llawr gwaelod. Ystafell fyw, gyda stôf goed, teledu clyfar, chwaraewr DVDs. 2 gam i’r gegin/ystafell fwyta gyda stôf drydan, hob drydan, microdon, oergell/rhewgell, peiriant golchi, peiriant golchi llestri. Ystafell 1 gyda gwely dwbl. Ystafell 2 gyda dau wely sengl a theledu Freeview. Ystafell ymolchi gyda chawod dros y bath, toiled a rheilen gynhesu. Cot teithio a chadair uchel ar gael ar gais....Darllen Mwy
Am
Yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri gyda theithiau cerdded hardd gerllaw, ac o fewn cyrraedd hawdd i bentref Betws-y-Coed. Mae Siabod View wedi’i leoli y drws nesaf i nant fyrlymus gyda golygfeydd anhygoel o Foel Siabod. Ewch am daith gerdded o garreg eich drws ar hyd un o lwybrau niferus y goedwig, neu ewch am dro lawr i Fetws-y-Coed lle mae dewis o lefydd i fwyta.
Cyfleusterau: Popeth ar y llawr gwaelod. Ystafell fyw, gyda stôf goed, teledu clyfar, chwaraewr DVDs. 2 gam i’r gegin/ystafell fwyta gyda stôf drydan, hob drydan, microdon, oergell/rhewgell, peiriant golchi, peiriant golchi llestri. Ystafell 1 gyda gwely dwbl. Ystafell 2 gyda dau wely sengl a theledu Freeview. Ystafell ymolchi gyda chawod dros y bath, toiled a rheilen gynhesu. Cot teithio a chadair uchel ar gael ar gais. Darperir dillad gwely a thywelion. 1 anifail anwes am ffi ychwanegol.
Parcio i 2 car. Darperir basged o goed tân, ac mae ffi fach am fwy o goed tân. Wi-Fi am ddim. Lle storio beics.
Archebwch drwy AirB&B, e-bost neu ffonio.
Darllen Llai