Am
Mae ein cabanau gwyliau hynod o gyfforddus mewn lleoliad heddychlon ger yr afon ac o flaen y mynyddoedd. Rydym yn cynnig cabanau unllawr un, dwy a thair ystafell wely ar gyfer gwyliau hamddenol gartref - sy'n ddelfrydol ar gyfer cyplau, unigolion, teuluoedd a grwpiau o ffrindiau.
Mae ein holl gabanau wedi eu hadnewyddu’n ddiweddar ac yn cynnig llety o’r ansawdd uchaf. O’n matresi hynod gyfforddus i’n llenni a deunyddiau moethus, rydym wedi dylunio popeth i sicrhau eich bod yn cael y gwyliau mwyaf ymlaciol a chysurus. Mae gennym ddau gaban lle croesewir cŵn.
Yn ogystal â chroeso cynnes Cymreig a lleoliad hynod brydferth, gallwch ddisgwyl lle byw agored chwaethus gyda chegin ac ystafell fwyta yn un ac ystafell fyw gyfforddus, ystafelloedd gwely wedi’u cyflwyno’n hardd, ac ystafelloedd ymolchi gwlyb. Mae cabanau mwy yn cynnwys prif ystafell wely en-suite, ac mae cyfleusterau golchi dillad ar y safle.
Fe welwch ein parc gwyliau newydd hardd Rwst yng nghanol Eryri, Gogledd Cymru. Gyda golygfeydd godidog dros Afon Conwy i ddolydd, coedwigoedd a’r mynyddoedd mawr y tu hwnt, mae’n rhan syfrdanol o’r byd. Daw’r enw Rwst o Lanrwst, tref Dyffryn Conwy sy’n gartref i ni. Mae Llanrwst yn dref farchnad hanesyddol, gyda’r Carneddau tua’r gogledd a mynyddoedd Eryri tua’r de. Dyma dirwedd epig yn ddiamau.
Mae rhai o atyniadau mwyaf poblogaidd y rhanbarth ar garreg ein drws, gan gynnwys Zip World a Llwybrau Gwydir Mawr a Gwydir Bach. Ychydig ymhellach o’r dref mae’r Wyddfa, Bounce Below, a chanolfannau beicio mynydd Coed y Brenin ac Antur Stiniog.
Mae digon i'w archwilio heb fynd ar garlam hefyd. Dim ond 12 milltir o’r arfordir, rydyn ni’n agos at deithiau cerdded hardd ar lan y traeth, a threfi glan môr poblogaidd Conwy a Llandudno. Disgrifir Eryri weithiau fel Ardal y Llynnoedd Cymru, ac mae digon ohonynt ar stepen ein drws hefyd. Delfrydol os ydych yn mwynhau nofio gwyllt ar eich gwyliau.
Rydyn ni’n gymdogion i un o’r llefydd mwyaf poblogaidd i dynnu llun yng Nghymru: rydyn ni wedi ein lleoli ochr draw i’r afon o ystafelloedd te eiconig Tu Hwnt i’r Bont a phont garreg dri bwa hardd Llanrwst, a ddyluniwyd yn yr 17eg Ganrif gan y Pensaer gwych yng nghyfnod y Dadeni, Inigo Jones.
Archebwch ar-lein yn Rwst Holiday Lodges.
Pris a Awgrymir
- Nifer yr Ystafelloedd / Unedau
- 22
Ystafell / Uned Math | Ystafell / Uned Tariff* |
---|---|
Fesul uned yr wythnos | o£349.00 i £1,800.00 fesul uned yr wythnos |
*O £349.00 i £1,800.00 yr uned yr wythnos. Pecyn seibiannau byr, 3 noson yr uned o £299.
Cyfleusterau
Arall
- Areas provided for smokers
- Bed linen provided
- Credit cards accepted
- Ground floor bedroom/unit
- Gwres canolog
- Parcio preifat
- Short breaks available
- Showers on site
- Toilets on-site
- TV in bedroom/unit
- Washing machines available on-site
- Welsh Spoken
- Wireless internet
Nodweddion Darparwr
- Croesawgar i gŵn
Nodweddion Ystafell/Uned
- Derbynnir Anifeiliaid Anwes - Dau gyfrinfa sy'n addas i gŵn.