Os ydych chi’n chwilio am lety sydd ag awyrgylch croesawgar a chlud tra byddwch chi ffwrdd, fe ddewch chi o hyd i nifer o leoliadau gwely a brecwast addas ac o ansawdd uchel yn Sir Conwy yma ar ein gwefan i dwristiaid!
Yn aml mae ymwelwyr yn gwerthfawrogi moethusrwydd ac anffurfioldeb sefydliadau gwely a brecwast a thai llety Sir Conwy.
Lletygarwch llwyddiannus
Caiff nifer o’n lleoliadau gwely a brecwast yn Llandudno eu rhedeg gan deuluoedd ac maent wedi ennill gwobrau am ddarparu brecwast blasus gyda dewis helaeth o gynnyrch lleol, gan gynnig lletygarwch heb ei ail.
Mae rhai hyd yn oed yn mynd gam ymhellach gan ddarparu paned a darn o Fara Brith cartref ar ôl i chi gyrraedd!
Lleoliad yw popeth
Mae lleoliadau gwely a brecwast Sir Conwy wedi’u lleoli mewn tai cyfnod ac mae’r tu mewn...Darllen Mwy
Os ydych chi’n chwilio am lety sydd ag awyrgylch croesawgar a chlud tra byddwch chi ffwrdd, fe ddewch chi o hyd i nifer o leoliadau gwely a brecwast addas ac o ansawdd uchel yn Sir Conwy yma ar ein gwefan i dwristiaid!
Yn aml mae ymwelwyr yn gwerthfawrogi moethusrwydd ac anffurfioldeb sefydliadau gwely a brecwast a thai llety Sir Conwy.
Lletygarwch llwyddiannus
Caiff nifer o’n lleoliadau gwely a brecwast yn Llandudno eu rhedeg gan deuluoedd ac maent wedi ennill gwobrau am ddarparu brecwast blasus gyda dewis helaeth o gynnyrch lleol, gan gynnig lletygarwch heb ei ail.
Mae rhai hyd yn oed yn mynd gam ymhellach gan ddarparu paned a darn o Fara Brith cartref ar ôl i chi gyrraedd!
Lleoliad yw popeth
Mae lleoliadau gwely a brecwast Sir Conwy wedi’u lleoli mewn tai cyfnod ac mae’r tu mewn wedi’u haddurno’n gartrefol neu’n gyfoes. Mae gan rai olygfeydd gwych o’r môr tra bod rhai eraill mewn strydoedd tawel gyda rhesi o goed.
Fe fyddwch chi’n agos at y siopau, bwytai, atyniadau a’r traethau.
Os ydych chi’n chwilio am le i ymlacio yng nghefn gwlad, mae yna ddigonedd o ddewis hefyd - o’r lleoliadau sydd â golygfeydd panoramig dros gefn gwlad agored i guddfannau gwledig a thafarndai traddodiadol lle byddwch yn teimlo’n gartrefol gyda thanau agored a chroeso cynnes Cymreig.
Crwydro’r ardal gyfagos
Wrth ddewis llety gwely a brecwast yn Sir Conwy, fe fyddwch chi’n elwa o wybodaeth leol eich gwestywyr.
Byddant yn fwy na pharod i roi cyngor i chi am atyniadau a gweithgareddau lleol a’r holl lefydd gorau i fwyta os nad ydynt yn cynnig pryd min nos eu hunain.
Os fyddwch chi’n dewis un o’n llefydd gwledig i ymlacio, fe fyddwch chi yng nghanol cefn gwlad godidog gyda milltiroedd o lwybrau i’w crwydro ym mhentrefi fel Trefriw a Betws-y-coed.
Trefnwch eich Gwely a Brecwast rŵan!
Defnyddiwch y cyfleuster chwilio ar y dudalen hon i chwilio am wybodaeth i ymwelwyr yn ôl math neu ardal.
A chofiwch, os fyddwch chi angen cymorth i drefnu eich llety, cysylltwch â’n staff cyfeillgar yn y Canolfannau Croeso.
Darllen Llai