Am
Mae’n bleser gennym gynnig dewis gwych o lety o ansawdd, sy’n cynnwys bwthyn gwyliau hyfryd a chwt bugail moethus – a’r ddau mewn lleoliad cyfleus i fwynhau holl brif atyniadau’r gogledd. Perffaith ar gyfer cerddwyr a beicwyr, a theuluoedd sy’n chwilio am wyliau ymlaciol.
Mae’r bwthyn gwyliau yn olau ac mewn lle tawel a gwledig gyda golygfeydd gwych. Ni chaniateir anifeiliaid anwes, a rhwng y ddwy ystafell wely mae yna le i 5 gysgu (gwely dwbl, gwely maint brenin a gwely sy’n plygu). Gyda’r holl foethusrwydd cartref arferol, mae’r olygfa yn fendigedig drwy’r ffenestri mawr yn y lolfa a’r ystafell wely. Mae’r gegin yn cynnwys popeth sydd arnoch chi eu hangen, a ‘range’ tan agored.
Mae yna ardd fawr a phatio yn y cefn, gyda bwrdd a chadeiriau a barbeciw nwy, yn ogystal â thŷ haf mawr – y lle perffaith ar gyfer diwrnodau a nosweithiau braf yr haf neu rywle i blant yn eu harddegau dreulio eu hamser. Mae gan Sunsets and Stars Cottage 42 o adolygiadau ar Airbnb a phob un yn rhoi 5 seren i’r bwthyn; ac mae’r bwthyn hefyd wedi derbyn 5 seren gan Groeso Cymru yn ddiweddar. Fe ddywedodd un gwestai nad oes digon o sêr i ddisgrifio ei gwyliau.
Mae’r cwt bugail, gyda chegin ac ystafell ymolchi integredig, wedi’i leoli mewn padog ar y fferm yn y bryniau uwchlaw Conwy. Mae’r golygfeydd o’r cwt bugail yn hyfryd, ac mae’r Carneddau i’w gweld yn braf dros y bryniau. Gyda llwybrau hyfryd drwy’r caeau, golygfeydd panoramig, lonydd gwledig tawel a nant fyrlymus yn y coed, mae yna ddigon o ddewisiadau i fynd am dro.
Mae’r cwt bugail yn cynnwys gwely dwbl a gwely bync ar gyfer ffrindiau. Er bod y cwt bugail yn eang, rydym ni’n cynghori nad oes mwy na dau oedolyn ac un plentyn yn aros ynddo. Ni chaniateir anifeiliaid anwes.
Dyma’r lleoliad perffaith i archwilio gogledd Cymru. Mae hefyd yn lle gwych os oes arnoch chi eisiau ymlacio a chael ychydig o lonydd. Pa un ai ydych chi’n eistedd tu allan wrth y tân neu’n swatio dan do wrth y ffenestr, mae’r machlud haul yn fendigedig. Rydym ni’n cynnig croeso cynnes ac mae arnom ni eisiau i bawb gael amser da. I’r perwyl hwnnw, gallwn hefyd gynnig cyffyrddiadau bach ychwanegol. Felly ewch ati heddiw i archebu eich gwyliau, a gadewch i ni edrych ar eich ôl chi. “Gwych, gwych, gwych!! Does dim angen meddwl dwywaith cyn archebu!”
Pris a Awgrymir
- Nifer yr Ystafelloedd / Unedau
- 2
Ystafell / Uned Math | Ystafell / Uned Tariff* |
---|---|
Bwythyn | £756.00 fesul uned yr wythnos |
Cwt Bugeiliaid ( lleiafswm o 2 noson) | £108.00 fesul uned y noson |
*Fel canllaw, rhoddir prisiau fesul ystafell fesul noson ar gyfer gwestai, gwestai bach, gwely a brecwast, fflatiau â gwasanaeth a fesul wythnos am lety hunanddarpar.
Noder: Canllaw yn unig yw'r prisiau a gallant newid yn ddyddiol.
Cyfleusterau
Arall
- Bed linen provided
- Gwres canolog
- Parcio preifat
- Short breaks available
- Washing machines available on-site
- Wireless internet