Am
Teithiwch i dopiau Bae Colwyn i gyfarfod anifeiliaid o bob cwr o’r byd, gweld golygfeydd arbennig a chrwydro Gerddi Flagstaff a’u harddwch sy’n gartref i’r Sŵ gadwraeth wobrwyol yma.
Crwydrwch y llwybrau coediog, ymlaciwch ar y llethrau gleision a threuliwch y diwrnod yn dysgu am lawer o rywogaethau prin a rhai sydd mewn perygl o Brydain a gweddill y byd; o lewpardiaid yr eira i tsimpansïaid, pengwiniaid Humboldt i swricatiaid.
NEWYDD AR GYFER PASG 2025 – Tŷ Gloÿnnod Byw Coedwig Papilio
Camwch i fyd llawn bywyd Coedwig Papilio, lle mae gloÿnnod byw trofannol yn hedfan hyd y lle! Dyma gyfle i chi gamu i mewn i gynefin lle cewch chi ryfeddu at y creaduriaid hynod yma gyda’ch llygaid eich hun wrth ddysgu am eu harferion a’u cylchoedd bywyd difyr. Gydag arddangosfeydd rhyngweithiol a rhaglenni addysgol hwyliog, mae Coedwig Papilio yn eich gwahodd i gael eich synnu gan harddwch eithriadol gloÿnnod byw, a darganfod pwysigrwydd gwarchod y creaduriaid brau yma ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Archebwch eich tocynnau heddiw i fwynhau diwrnod gwyllt yn y Sŵ Fynydd Gymreig. Dyma’r lle mae cadwraeth yn dod yn fyw!
Pris a Awgrymir
Math o Docyn | Pris Tocyn |
---|---|
Anabl | £9.23 consesiwn |
Myfyriwr | £15.30 consesiwn |
Oedolyn | £16.56 oedolyn |
Plentyn | £12.47 plentyn |
Mae’r prisiau a restrir yn docynnau Gwerth gyda 10% oddi ar y cynnig archebu ar-lein wedi’i gynnwys (cynnig yn ddilys wrth brynu tocynnau ar-lein trwy wefan y Sŵ Fynydd Gymreig hyd at 11:59pm y diwrnod cyn mynediad).
Gweler y wefan am fanylion prisiau tocynnau.
Cyfleusterau
Arlwyo
- Caffi/bwyty ar y safle
- Gwasanaeth arlwyo
- Safle Picnic
Cyfleusterau Darparwyr
- Mynediad Anabl
- Siop
- Toiledau
- Yn darparu ar gyfer grwpiau ysgolion
- Yn derbyn partïon bysiau
Deunydd Argraffedig mewn Ieithoedd Arall
- Deunydd Argraffedig Cymraeg
Dulliau Talu
- Cyfraddau arbennig i grwpiau
- Derbynnir Grwpiau
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Caniateir Cw^n Cymorth
- Lleoedd Parcio i Ymwelwyr Anabl
- Mynediad wedi'i wella ar gyfer ymwelwyr ag anawsterau symudedd
- Ramp / Mynedfa Wastad
- Toiledau ar gyfer Ymwelwyr Anabl
Ieithoedd a siaredir
- Siaredir Cymraeg
Marchnadoedd Targed
- Hwyl i'r Teulu
- Wedi'i Farchnata ar gyfer Teuluoedd
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Awyr Agored
- Yn y wlad
Parcio a Thrafnidiaeth
- Maes parcio
Plant a Babanod
- Cyfleusterau newid babanod
Teithiau ac Arddangosiadau
- Derbynnir Ymweliadau Addysgiadol
Teithio a Masnachu
- Disgownt ar gael ar gyfer grwpiau
- Wi-fi ar gael
Teithio Grw^p
- Derbynnir bysiau