Am
Mae'r coetir amlwg hwn sy’n ymestyn ar draws y llethrau uwchben a’r tu ôl i dref Bae Colwyn yn hawdd cyrraedd ato o'r llwybr beicio arfordirol, Sw Mynydd Gogledd Cymru a Phorth Eirias.
Mae'r coed bron i gyd yn rhai collddail ac mae amrywiaeth o goed brodorol a rhywogaethau egsotig fel castanwydd a phinwydd. Mae coed ffawydd, derw a chastanwydd aeddfed trawiadol yn rhoi cymeriad i'r coetir ac mae dwy afon yn creu nodwedd ddeniadol wrth iddynt droelli drwy'r glynnoedd dwfn yn rhan hynafol y goedwig.
Mae’r adar y gellir eu gweld a'u clywed yn cynnwys sgrech y coed, y bwncath, cnocell y cnau, y gnocell fraith fwyaf, dringwr bach, a'r dylluan frech.
Mae King’s Drive a Llanrwst Road yn rhannu'r coetir 21 hectar yn dair rhan.
Mae panelau dehongli yn y mynedfeydd yn rhan ganol y coetir ac mae'r rhain yn helpu i esbonio ei hanes diweddar, rhai o'r coed, ffyngau a bywyd gwyllt sydd i'w gweld yn ogystal â dangos nifer o lwybrau cylchol y gellir eu dilyn.
Lawrlwythwch daflen Pwllycrochan am fapiau o’r llwybrau, gwybodaeth am fywyd gwyllt a chanllawiau.
Cyfleusterau
Arall
- Croesewir Cerddwyr
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Awyr Agored
- Croesawgar i gŵn
- Lleoliad Coedwig