Gweithgareddau Awyr Agored yn Sir Conwy
Ydych chi am archwilio’r awyr agored? Mae Sir Conwy yn y lleoliad perffaith ar gyfer ystod o weithgareddau awyr agored. Os ydych am ddringo'r gadwyn hardd o fynyddoedd neu gymryd rhan mewn chwaraeon dŵr ar yr arfordir, fe ddewch o hyd i’r weithgaredd awyr agored berffaith i weddu i bawb.
O weithgareddau llawn adrenalin i deithiau braf golygfaol
Mae’r cefn gwlad yng Ngogledd Cymru yn ei wneud y lleoliad perffaith ar gyfer antur awyr agored a gweithgareddau adrenalin. Gallwch fwynhau gwifrau gwib, chwaraeon dŵr a dringo creigiau, oll wrth edmygu’r golygfeydd ysblennydd o’r arfordir a’r dirwedd. Mae Sir Conwy yn rhan o Ogledd Cymru lle mae Eryri’n cwrdd a’r môr, felly mae’r sir ag arfordir golygfaol yn ogystal â nifer o gadwyni mynyddoedd mawreddog.
Tra bo’r ardal yn cynnig toreth o weithgareddau adrenalin anhygoel, gall ymwelwyr hefyd fwynhau chwaraeon ysgafnach yng nghefn gwlad y sir. Gydag ystod eang o gyrsiau golff gwych, nifer o fannau pysgota lleol ac amrywiaeth o deithiau cerdded i’w mwynhau, byddwch yn sicr o ganfod digon o brofiadau awyr agored i gadw holl aelodau'ch criw gwyliau yn ddiddan.
Ysbrydoliaeth am weithgareddau awyr agored
I gael gwefr o adrenalin, ewch draw i'r Zip World Fforest ym Metws y Coed. Cewch gwympo 100tr trwy drapddor, hedfan trwy’r fforest ar siglen anferth Zip World, neu droi a throelli trwy’r coed ar y Fforest Coaster. Os yw’n well gennych weithgareddau adrenalin sy’n ymwneud â dŵr, ewch draw i Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Y Brenin ym Mharc Cenedlaethol Eryri er mwyn rhoi cynnig ar ganŵio, caiacio a rafftio dŵr gwyn. Dylai selogion syrffio anelu am Barc Antur Eryri i syrffio ar forlyn syrffio mewndirol cyntaf y byd.
Beth am rownd o golff yng Nghlwb Golff Conwy? Yn gartref i Gwpan Curtis 2020, mae cwrs y maes yn darparu profiad golffio penigamp trwy gydol y flwyddyn.
Am antur awyr agored mwy tawel ond eto llawn gwobrwyon, beth am un o’r teithiau cerdded poblogaidd yn yr ardal. Anelwch yn uchel a mynd ar hyd Taith Mynydd Conwy er mwyn mwynhau golygfeydd ysblennydd o bob cwr o'r sir. Neu, fe allech fynd am dro o amgylch un o lynnoedd hardd y sir. Mae modd mynd â phramiau a chadeiriau olwyn ar y teithiau cylchol yn Llyn Brenig a Llyn Crafnant.
Rhagor o wybodaeth
Porwch trwy ein rhestr o weithgareddau awyr agored yn Sir Conwy i ddarganfod y profiad perffaith i chi. Gallwch ddarganfod mwy am y gweithgareddau sy'n apelio mwyaf atoch â'u hychwanegu at eich amserlen wyliau. Os ydych angen mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r gweithgareddau, galwch dîm y Ganolfan Groeso ar 01492 577577.