Am
Sefydlwyd Clwb Hwylio Conwy yn 1911, ac mae’n un o’r rhai hynaf yn yr ardal. Cynhelir rasys yn rheolaidd yn ystod yr haf ac mae’r clwb hefyd yn cynnig cyfleusterau cymdeithasol gyda byrddau snwcer a phŵl, teithiau i chwarae golff a mwy.
Mae’r harbwr ar bae yn cynnig cyfleoedd gwych i fynd ar y dŵr sydd wedi’i amgylchynu gan olygfeydd ysblennydd o’r castell, y dref a chopaon Eryri.
Er ei fod yn ymwneud â hwylio i ddechrau pan gafodd ei sefydlu gyntaf, mae gan y clwb adran rwyfo weithredol erbyn hyn ac rydym yn awyddus i gefnogi morwyr o bob math.