Am
Taith o tua 15 milltir (24 km) gyda llethrau cymedrol trwy bentrefi Betws-y-Coed, Penmachno, Capel Garmon, heibio i geunant Ffos Anoddun gyda golygfeydd gwych, gan orffen lle mae’r daith yn cychwyn yn Llanrwst. Mae'n cychwyn o’r maes parcio am ddim wrth ddod i mewn i Lanrwst o’r gogledd ar yr A470 neu yn yr orsaf drenau.