Am
Dau lwybr o amgylch Llyn Brenig sy’n arwain y cerddwr heibio rhai o nodweddion mwyaf diddorol y tirlun hynafol hwn. Mae’r llwybr hwn i’r gogledd-ddwyrain o Lyn Brenig tua 2 filltir o hyd. Mae’r daith yn dechrau drwy ddilyn y llwybr byr, cyn troi i’r dde ger yr Hafotai i’r Garnedd Lwyfan, ac ymlaen at Garnedd o’r Oes Efydd. Wrth agosáu at y garreg hon, mae’r llwybr yn croesi nifer o gloddiau a ffosydd isel a oedd yn nodi caeau canoloesol. Mae dwy garreg arall o’r Oes Efydd i’w gweld ar hyd y llwybr i Hafoty Sion Llwyd - tŷ haf amaethyddol a ailgodwyd ym 1881 gan ddefnyddio cerrig hynafol o’r bryniau. Dyma gartref teulu’r Pierce am fwy na chanrif ac mae nifer o chwedlau traddodiadol am aur y tylwyth teg a cherddoriaeth yn gysylltiedig â’r lle. Mae maes parcio a chyfleusterau ar gael yng Nghanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig. Mae taflen am ddim, ‘Dyn ym Mrenig’, ar gael o’r Ganolfan Ymwelwyr, yn rhoi mwy o wybodaeth am y daith gerdded a hanes ac archaeoleg yr ardal.
Cyfleusterau
Nodweddion Darparwr
- Croesawgar i gŵn
- Yn y wlad
Suitability
- Perchnogion Cŵn
- Teuluoedd