Am
Dyma lwybr sy’n cyfateb i’w enw, mae’n daith anodd 57 cilomedr o hyd sy’n cynnwys bron i 1500m o ddringo gan herio’r beicwyr mwyaf heini (gradd coch). Mae’r golygfeydd a’r ddisgynfa hir a chyffrous ar drac sengl yn wirioneddol werth chweil. Mae’r daith yn dechrau ger safle picnic Bod Petryal, ac yn dilyn y llwybr i fyny at Lyn Brenig ar rostiroedd uchel Hiraethog. Gallwch fwynhau seibiant yng Nghanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig neu ddychwelyd yn syth ar y ddisgynfa hirddisgwyliedig lawr i Fod Petryal.
Cyfleusterau
Nodweddion Darparwr
- Yn y wlad