Am
Mae’r llwybr diddorol a golygfaol hwn yn cysylltu pentrefi Mynydd Hiraethog, sef Pentrefoelas, Cerrigydrudion, Llanfihangel Glyn Myfyr a Llanrhaeadr ar hyd cyfres o lwybrau cyhoeddus, lonydd a ffyrdd tawel.
Mae’r llwybr yn ddelfrydol ar gyfer gwyliau penwythnos hir i gerddwyr profiadol - gyda chyfle i ddilyn cylchdeithiau byr ar hyd rhannau o’r llwybr ar gyfer y rhai hynny sy’n chwilio am brofiad llai anturus.
Dyma ffordd wych i fwynhau rhostiroedd Mynydd Hiraethog a phentrefi’r ardal lle ceir digonedd o lefydd i aros am fwyd a diod ac i werthfawrogi’r golygfeydd.
Cyfleusterau
Nodweddion Darparwr
- Croesawgar i gŵn
- Yn y wlad
Suitability
- Teuluoedd