Am
Llwybrau Penmachno yw un o ganolfannau beicio mynydd gorau Gogledd Cymru. Mae yma ddau lwybr - Dolen Machno (19 cilomedr) a Dolen Eryri (11 cilomedr) - a gallwch eu beicio’n unigol neu fel clamp o daith hir 30 cilomedr. Maen nhw’n gyfuniad perffaith o ddisgyniadau trac sengl a dringfeydd ar hyd lonydd coedwig - a cheir rhai dringfeydd technegol anodd hefyd. Mae’r llwybrau wedi’u lleoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ac mae digonedd o olygfeydd gwych ar hyd y daith.
Cyfleusterau
Nodweddion Darparwr
- Yn y wlad