Am
Taith fer ond egnïol o 13 milltir (21 km) gyda golygfeydd godidog yn cychwyn o Fetws-y-Coed ac yn mynd trwy bentrefi Llanrhychwyn a Threfriw ac ymlaen i Lanrwst gan ddychwelyd i Fetws-y-Coed, gydag opsiwn o fynd heibio i Lyn Crafnant. Y rhan anoddaf o’r llwybr yw’r 3 milltir gyntaf gan mai dyma’r rhan sy’n codi fwyaf, ond mae'n werth yr ymdrech gan fod y golygfeydd yn wych. Mae'n cychwyn o’r maes parcio talu ac arddangos yng ngorsaf drenau Betws-y-Coed.
Cyfleusterau
Nodweddion Darparwr
- Yn y wlad