Am
Mae Llyn Aled, llyn naturiol dwfn, yng nghanol rhostiroedd uchel Hiraethog. Mae’r safle anial, ond hyfryd hwn sydd dros 250 troedfedd uwch lefel y môr, yn gallu bod yn wyntog, ond mae’n lleoliad da iawn ar gyfer pysgota cwrs am ddraenogiaid, penhwyaid bras a chochiaid. Nid oes unrhyw goed yn tyfu ar lannau’r llyn 110 acer o faint, mae’r tir yn gorsiog mewn mannau, ac mae lliw oren y dŵr yn adlewyrchu natur fawnog y rhostiroedd sy’n amgylchynu’n llyn. Gallwch gael mynediad at y llefydd gorau i bysgota drwy ddilyn y lôn fynyddig, gul o’r A543, ger y fan lle mae’r nant yn llifo o’r llyn. Mae’r cyfleusterau agosaf i’w canfod yng Nghanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig lle gallwch hefyd brynu trwyddedau.