Am
Mae Llyn Brenig yn adnabyddus am ei harddwch a’i ddewis eang o weithgareddau awyr agored, yn cynnwys pysgota plu gwych. Mae’r llyn 920 acer o faint yn cael ei stocio â brithyll seithliw, sy’n cael eu magu ar y safle, a gall pysgotwyr fwynhau pysgota o’r glannau sydd wedi’u gorchuddio â grug a choed pyrwyrdd. Llyn Brenig yw un o’r pysgodfeydd prin a gedwir ar gyfer pysgota plu yn unig. Gallwch brynu trwyddedau pysgota yn y siop bysgota yng Nghanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig, neu o’r peiriannau trwyddedau yn y maes parcio.
Cyfleusterau
Arall
- Café on premises
Parcio a Thrafnidiaeth
- Maes parcio