Am
Mae Seren Ventures ym mhentref prydferth Betws-y-Coed yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri a hwn yw prifddinas antur awyr agored Gogledd Cymru.
Mae Seren Ventures yn ganolfan AALA gofrestredig sy’n darparu cyrsiau mynydda, dringo creigiau, sgrialu a llywio yn ogystal â dringfeydd creigiau wedi’u tywys o ddechreuwyr i gleientiaid mwy datblygedig a darperir cyrsiau sgiliau gaeaf hefyd.
Mae Seren Ventures wedi tywys teithiau cerdded o’r Wyddfa i bob un o gopaon Cymru sydd uwchlaw 3000 troedfedd a chynhaliwn gyrsiau 3 diwrnod i gwblhau Mynyddoedd 3000 Cymru.
Mae Seren Ventures hefyd yn darparu gweithgareddau antur o sgrialu ceunentydd, teithio hafnau, arfordira a sesiynau blasu dringo creigiau ac abseilio.
Caiff yr holl offer arbenigol ei gynnwys yn y pris. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw dod ag ymdeimlad o antur a chael llawer o hwyl.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Darparwyr
- Cymorth Cyntaf
- Gwersi/cyrsiau ar gael
- Hyfforddwyr cymwys
- Lefel ffitrwydd ofynnol - canolig
- Lefel ffitrwydd ofynnol - isel
- Lefel ffitrwydd ofynnol - uchel
Ieithoedd a siaredir
- Siaredir Cymraeg
Nodweddion Darparwr
- Yn y wlad
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Teithio a Masnachu
- Disgownt ar gael ar gyfer grwpiau