Am
Os oes awydd arnoch daith hamddenol yn ôl i’n gorffennol canoloesol yna mae Taith y Fonesig Fair trwy Goedwig Gwydyr yn berffaith ar eich cyfer. Ar y daith hanesyddol ceir golygfeydd anhygoel o hen dref marchnad Llanrwst ac fe’ch cyflwynir i rai o’r cymeriadau lleol sydd wedi gadael eu hôl ar yr ardal dros y canrifoedd.
Ar ôl parcio ym Maes Parcio’r Bont Fawr ger pont hanesyddol Llanrwst, bydd y daith yn eich arwain ar hyd lan Afon Conwy cyn dringo i fyny at Gwydyr Uchaf ac at gerfluniau derw tal sy’n deyrnged i Dafydd ap Siencyn - ein fersiwn ni'r Cymry o’r cymeriad Robin Hood. Yna, bydd y daith yn eich arwain at y lawnt fowlio hanesyddol lle cewch weld sut yr oedd Syr John Wynn o Wydyr yn diddanu ei westeion pwysig 400 mlynedd yn ôl (dyma le penigamp i gael picnic, yr oll sydd angen i chi ei wneud yw dychmygu eich bod yn bwyta gyda boneddigion o’r cyfnod canoloesol) cyn cerdded yn ôl i lawr am Gwydyr Uchaf lle bydd cyfle i edrych ar yr hyn sy’n weddill o’r gerddi cyhoeddus.
Am brofiad sy’n siŵr o godi gwrychyn, ychwanegwch ddimensiwn arall i’ch taith gerdded trwy lawrlwytho ein taith sain - a chael cwmni’r Fonesig Mair, ac ysbrydion ei chyndadau a Dafydd ap Siencyn a’i helwyr, wrth i chi gerdded a dysgu am hanes lliwgar Llanrwst a Syr John Wynn o Wydyr.
Cyfleusterau
Nodweddion Darparwr
- Croesawgar i gŵn
- Yn y wlad
Suitability
- Teuluoedd