Am
Mae'r gylchdaith hon yn cychwyn o dref farchnad Llanrwst ac yn mynd â chi trwy goetir hynafol Coed y Felin.
Mae'r daith ar ei gorau yn y gwanwyn pan mae'r ddaear wedi'i orchuddio gan flodau coetir. Mae'r daith gerdded yn mynd â chi ar hyd lonydd i bentref Llanddoged ac yna byddwch yn dilyn llwybrau ar draws tir fferm gyda golygfeydd godidog o Eryri a Dyffryn Conwy.
Cychwynnwch y daith o faes parcio Glasdir yng nghanol Llanrwst. Hyd y daith yw 5 milltir (8 km).
Lluniaeth ar gael mewn siopau, tafarndai a chaffis lleol yn Llanrwst.
Cyfleusterau
Nodweddion Darparwr
- Croesawgar i gŵn
- Yn y wlad
Suitability
- Teuluoedd