Am
Pum cylchdaith o wahanol hyd o bentref Pentrefoelas, sy’n enghraifft wych o bentref 'stad, sy'n cymryd ei enw o'r Foel-las, bryn bychan gerllaw lle bu unwaith gastell canoloesol cynnar. Mae’r teithiau’n dilyn llwybrau trwy gaeau a rhostir, lonydd Rhufeinig, traciau a lonydd, sydd weithiau’n croesi tir amaethyddol. Felly, cadwch gŵn ar dennyn. Mae’r teithiau’n cychwyn o faes parcio’r pentref. Lluniaeth ar gael o siopau a thafarndai lleol ac mae toiledau ar gael yn y pentref. Mae manylion y teithiau yn y daflen gysylltiedig y gallwch ei lawrlwytho.
Gallwch ddewis:
Llwybr A: 2.5 milltir (4 km)
Llwybr B: 9 milltir (14.5 km)
Llwybr C: 7.2 milltir (11.6 km)
Llwybr D: 4.7 milltir (7.6 km)
Llwybr E: 3.4 milltir (5.5 km).
Cyfleusterau
Nodweddion Darparwr
- Croesawgar i gŵn
- Yn y wlad
Parcio a Thrafnidiaeth
- Maes parcio
Suitability
- Teuluoedd