Am
Mae llwybrau Drysau Cysegredig yn cysylltu rhai o eglwysi a chapeli mwyaf diddorol pentrefi a threfi bach Dyffryn Conwy.
Mae pedwar grŵp o deithiau y gallwch eu dilyn, naill ai mewn car neu trwy ddefnyddio’r llwybrau cerdded dynodedig rhwng pob eglwys a phentref/tref.
O seintiau i bechaduriaid, o dywysogion i bererinion, a beirdd i helwyr, bydd taith y Drysau Cysegredig yn eich tywys trwy filoedd o flynyddoedd o’n hanes cyfareddol.
Mae rhai o’r eglwysi mewn lleoliadau amlwg yn y dirwedd, ond mae eraill yn anos dod o hyd iddynt, gydag ambell un yn swatio ger afon droellog, i lawr lôn wledig anghysbell, neu hyd yn oed ar gopa mynydd.
Mae gan bob eglwys a chapel ar daith y Drysau Cysegredig stori unigryw i’w dweud, a thrysorau cudd i’w darganfod.
Cyfleusterau
Nodweddion Darparwr
- Yn y wlad