Tramffordd y Gogarth
Rheilffordd
Ffôn: 01492 577877
Am
Tramffordd y Gogarth yn Llandudno ydi’r unig dramffordd a gaiff ei thynnu gan gebl ar ffordd gyhoeddus ym Mhrydain. Ers ei hagor ar 31 Gorffennaf 1902, mae trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd wrth eu bodd yn mynd am dro arni.
O Orsaf Fictoria mae’r tram yn dringo 1500 metr i fyny Gwarchodfa Natur a Pharc Gwledig y Gogarth. Gallwch newid tram yn yr Orsaf Hanner Ffordd a pharhau â’ch siwrnai i gopa’r Gogarth - ac mae’r golygfeydd ar y copa yn werth eu gweld. Ar ddiwrnod clir fe allwch chi weld Ynys Manaw, Blackpool ac Ardal y Llynnoedd!
Dros y blynyddoedd mae’r cerbydau tram Fictoraidd wedi’u hatgyweirio. Felly pan fyddwch chi’n teithio ar Dramffordd y Gogarth, fe allwch chi deithio mewn steil fel yr oeddan nhw gan mlynedd yn ôl!
Gall grwpiau, ysgolion a theuluoedd fanteisio ar ostyngiad o 10%.
Pris a Awgrymir
Gweler y wefan am fanylion prisiau tocynnau.