Am
Distyllfa Penderyn yw cartref Wisgi Cymreig sydd wedi ail-gyflwyno distyllu i Gymru ar ôl canrif a mwy. Maent yn cynhyrchu wisgi a gwirodydd Cymreig sydd wedi ennill gwobrau ac maent yn allforio i dros 50 o wledydd ledled y byd. Yn 2021 agorwyd eu hail ddistyllfa ar safle Penderyn Lloyd Street, sef safle Hen Ysgol Fwrdd Llandudno.
Mae’r siop ar agor 7 diwrnod yr wythnos a gellir archebu teithiau o amgylch y ddistyllfa ar eu gwefan ar-lein neu drwy fynd i’r siop. Maent hefyd yn cynnal dosbarthiadau meistr ar benwythnosau ar gyfer y rheiny â diddordeb mewn wisgi sy'n awyddus i ddysgu mwy am wisgi Cymreig hefyd.
Gallwch archebu lle ar daith Distyllfa Penderyn Lloyd Street, Llandudno neu gwrs meistr wisgi, er mwyn blasu gwirod Cymreig, samplau o wisgi a dysgu beth sy’n gwneud Distyllfa Penderyn mor unigryw.
Pris a Awgrymir
Gweler y wefan am fanylion prisiau tocynnau.
Cyfleusterau
Arall
- Car Charging Point
Cyfleusterau Darparwyr
- Toiledau
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Cyfleusterau ar gyfer Ymwelwyr â Nam ar eu Clyw
- Lleoedd Parcio i Ymwelwyr Anabl
- Mae Pob Ardal yn Hygyrch i Ymwelwyr Anabl
- Ramp / Mynedfa Wastad
- Toiledau ar gyfer Ymwelwyr Anabl
Ieithoedd a siaredir
- Siaredir Cymraeg
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Dan Do
- Mewn tref/canol dinas
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
- Parcio ar y safle
Teithio a Masnachu
- Disgownt ar gael ar gyfer grwpiau
- Wi-fi ar gael
Teithio Grw^p
- Derbynnir bysiau