Ydych chi’n chwilio am leoedd i aros yn Abergele a Phensarn? Ydych chi’n breuddwydio am wyliau mewn tref glan y môr swynol? Gallwn eich helpu i ddarganfod yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i drefnu eich ymweliad nesaf.
Mae traethau tywodlyd tawel yn Abergele a Phensarn, yn agos at safleoedd hanesyddol a bryniau coediog. Oddi yma, gallwch ddianc rhag straen bywyd bob dydd. Gallwch fwynhau golygfeydd o’r môr, lleoedd hanesyddol fel Castell Gwrych (lleoliad cyfres deledu ITV, I’m a Celebrity 2020), ac amrywiaeth o bethau i’w gwneud gan ddifyrru’r teulu i gyd.
Dod o hyd i leoedd i aros yn Abergele a Phensarn
Ydych chi am fwynhau gwyliau mewn carafán wrth lan y môr gyda’r plant? Neu a fyddai’n well gennych aros mewn gwesty neu lety gwely a brecwast clyd a rhamantus? Pa bynnag un fyddai’n well gennych chi, gallwn eich helpu i ddarganfod y lleoedd perffaith i aros yn Abergele a Phensarn.
Gallwch ddewis aros yn un o’r nifer o feysydd carafanau yn Abergele fel Maes Carafanau The Beach, Parc Gwyliau Tŷ Gwyn, ac SF Parks. Mae amrywiaeth eang o gyfleusterau ar gael yn y meysydd carafanau, fel bwytai a bariau ar y safle, gweithgareddau i blant ac ystafelloedd gemau i deuluoedd. Dyma’r lle perffaith i ddifyrru’r teulu i gyd!
Neu beth am ddarganfod llety gwely a brecwast neu westy clyd i fwynhau gwyliau rhamantus yng nghefn gwlad Cymru? Gallwch dreulio’r noson mewn llety gwely a brecwast neu westy hamddenol a deffro’r bore wedyn i weld golygfeydd o’r môr. Beth am fwynhau brecwast llawn cyn mynd i grwydro yn ein cefn gwlad hardd? Gyda chynifer o lety gwely a brecwast a gwestai ar hyd arfordir Gogledd Cymru i ddewis ohonynt, mae digonedd o leoedd ar gael i chi.
Pethau i’w gwneud
Mae Pensarn yn rhan o Abergele lle gallwch fynd i lan y môr. Mae traeth tywodlyd, gyda phrom, arcedau a chaffis yno. Os ydych chi’n teimlo’n egnïol, gallwch feicio neu gerdded oddi yma ar y llwybr tua’r gorllewin tuag at Fae Colwyn neu tua’r dwyrain i Fae Cinmel.
Mae Abergele yn dref hyfryd, ychydig i mewn o lan y môr. Ar hyd y bryniau mae caerau o Oes yr Haearn, ac roedd y dref unwaith yn dref fasnachu Rhufeinig a marchnadfa ganoloesol.
Gallwch fynd yn ddyfnach i hanes Cymru yng Nghastell Gwrych. Y castell hardd hwn sy’n 200 mlwydd oed yw safle newydd cyfres deledu I’m a Celebrity…Get Me Out Of Here 2020. Fe adeiladwyd y castell rhwng 1812 ac 1822. Ym 1946, cafodd ei werthu gan y teulu Dundonald. Dywedir bod ysbryd Iarlles Dundonald yn dal i grwydro’r castell hyd heddiw ac mae sawl un wedi gweld dynes mewn gwyn!
Mae Abergele yn fan cychwyn da i grwydro Gogledd Cymru i gyd. Mae’n agos at brif gyrchfannau a rhosydd Mynydd Hiraethog. Mae bryniau coediog yn dechrau ychydig y tu allan i’r dref, ac mae golygfeydd gwych yn ôl i’r arfordir. Mae un o’r teithiau cerdded lleol yn mynd â chi at Tower Hill, sef tŵr gwylio Elisabethaidd a oedd yn amddiffyn yr arfordir rhag môr-ladron, fel y tybiwyd.
Mae Clwb Golff Abergele yn gwrs parcdir hyfryd 18 twll. Caiff ei adnabod fel un o’r cyrsiau golff â’r mwyaf o olygfeydd yng Nghymru, ac mae’n nodedig am ei griniau esmwyth, sych, a’r ffaith fod modd chwarae yno trwy gydol y flwyddyn.
Sut i drefnu eich gwyliau nesaf
Mae modd darganfod lleoedd i aros a phethau i’w gwneud yn Abergele a Phensarn drwy chwilio ein rhestr ar waelod y dudalen hon. Os hoffech ragor o helpu i gynllunio eich gwyliau, gallwch ffonio ein tîm ar 01492 577577.
I gael mwy o wybodaeth am Abergele, cliciwch yma.