Am
Archwiliwch Llandudno, a darganfyddwch beth yw’r cysylltiad ag Alice Liddell (yr Alys yng Ngwald Hud go iawn) a ddaeth ar wyliau i Landudno yn y 1860au.
Mae’n ddiwrnod allan gwych efo digon o gyfleoedd i dynnu lluniau, darganfod llu o gerfluniau Alys yng Ngwald Hud sydd wedi eu codi yma ac acw o amgylch y dref. Mae'r daith yn mynd â chi heibio Neuadd y Dref, siopau creiriau ac orielau celf Madoc Street, ar hyd y Promenâd ac i’r Fach. Yma fe allwch chi ymlacio a mwynhau picnic a helfa sborion.
O'r siambr dywyll fe gewch chi olygfeydd godidog o’r cyrchfan glan môr Fictoraidd anhygoel yma ac o Benmorfa. Mae’r llwybr wedyn yn mynd â chi drwy erddi ysblennydd Haulfre at droed y Gogarth ac yna at leoliad cartref gwyliau Alys ym Mhenmorfa.
Gallwch brynu y pamphled Llwybr Alice o'r Ganolfan Groeso ac ar-lein! Nawr am bris gostyngol o ddim ond £1.99! Siopiwch yma.
** Sylwch fod angen gwneud gwaith atgyweirio ar rai o’r safleoedd ar hyd y llwybr. Cafodd dros 60 o goed eu difrodi neu eu cwympo yng ngerddi Y Fach yn ystod gwyntoedd cryfion Storm Arwen. Gan hynny mae rhai rhannau o’r llwybr sy’n mynd trwy’r gerddi yn dal ar gau am resymau diogelwch.
Cyfleusterau
Nodweddion Darparwr
- Croesawgar i gŵn
- Mewn tref/canol dinas
Suitability
- Perchnogion Cŵn
- Teuluoedd