Yn gryno. Cyrchfan fynyddig brysur a’r porth i Eryri.
Pwy ddywedodd fod Cymru ar gau ar y Sul? Ewch i Fetws-y-Coed ar unrhyw Sul yn y flwyddyn (yn cynnwys mis Rhagfyr) ac fe welwch bentref sy’n llawn bwrlwm ac ar agor i fusnes. Nid dim ond y siopau prysur, yn gwerthu nwyddau o offer awyr agored i grefftau cain, sy’n denu’r ymwelwyr. Teithwyr cynnar o oes Victoria oedd yn gyfrifol am osod Betws ar y map yn y lle cyntaf, roeddynt wrth eu bodd â’r lleoliad coediog hardd lle mae pedair afon fyrlymus yn cyfarfod. Y lleoliad arbennig hwn, nad yw wedi newid rhyw lawer ers y dyddiau hynny, yw’r prif atyniad heddiw hefyd.
Wrth gwrs, mae Betws ei hun wedi newid. Mae’n gyrchfan fynyddig brysur sy’n cynnig pob math o atyniadau a gweithgareddau. Ewch i’r coed gyda’ch teulu a’ch ffrindiau i ddarganfod Zip World Fforest ac i fynd i’r afael â’r cwrs rhaffau, rhwydi a’r siglenni yn y canopi. Mae Fforest Coaster yn reid tobogan newydd a’r Plummet 2 yn ddisgynfa 100 troedfedd/30 metr drwy drapddor! Bydd eich calon yn carlamu gan mai dyma’r peth tebycaf i neidio allan o awyren heb barasiwt.
I ddarganfod mwy am fywyd y goedwig gallwch gerdded, marchogaeth a beicio mynydd yn llennyrch Coedwig Gwydyr. Mae gweithgareddau awyr agored eraill yn cynnwys canŵio a sgrialu – ac os ydych am roi cynnig ar weithgareddau cyffrous tanddaearol mae’r rhain hefyd ar gael yng nghanolfan Go Below gerllaw. Yn yr hen chwareli o dan Eryri byddwch yn darganfod byd o lynoedd glas dwfn, weiren wib, pontydd, ysgolion ac abseilio. Mae’n gwrs ymosod unigryw iawn.
Mae Betws-y-Coed yn fan cychwyn perffaith i grwydro Eryri.
Dylech dreulio amser i ddechrau yng Nghanolfan Gwybodaeth Parc Cenedlaethol Eryri sydd yn ffynnon o wybodaeth ar yr hyn sydd i’w weld a’i wneud yn lleol. Mae yna hefyd ffilm ragarweiniol wych sy’n cynnwys drôn yn hedfan ac yn ffilmio o’r uchelfannau yn ogystal â rhith-gopa sydd yn ailfyw’r golygfeydd 360-gradd o gopa’r Wyddfa.
Mae’n ddigon hawdd gadael eich car a neidio ar fws Sherpa’r Wyddfa am daith ecogyfeillgar.
Mae Rhaeadr Ewynnol, yn o fannau prydferth mwyaf adnabyddus Cymru, hefyd gerllaw. A chofiwch am y Tŷ Hyll, yr adeilad rhyfedd hwnnw a adeiladwyd o gerrig mawrion, di-siâp.
Mae selogion rheilffyrdd yn siŵr o fod wrth eu boddau gydag Amgueddfa Rheilffordd Dyffryn Conwy sydd reit wrth y brif orsaf. Mwynhewch daith wyth munud ar y trên stem bach trwy’r tiroedd amgylchynol, ewch i edrych ar y gwaith llaw ddiddorol yn yr amgueddfa yn ogystal â’r casgliad anferthol o drenau model yn y siop.
Dod o hyd i lety ym Metws-y-Coed a darganfod pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn yr ardal.