Am
Wedi ei leoli yn agos at y traeth yn Abergele, mae Parc Pentre Mawr yn barc trefol gweddol fawr yng nghanol ardal breswyl. Roedd Parc Pentre Mawr yn arfer bod yn rhan o stad teulu Jones, ac yna’n ddiweddarach yn rhan o stad teulu Jones-Bateman, a fu’n byw ym Mhentre Mawr am dros 300 mlynedd. Cafodd y parc ei brynu gan yr Awdurdod Lleol yn 1938.
Mae'r parc yn lle gwych i ymweld ag o ac fe allwch chi hefyd, os oes gennych chi ddigon o amser, ymweld â Thraeth Pensarn ar yr un pryd. Mae gan Bentre Mawr nifer o gerfluniau, a osodwyd yno gan yr Awdurdod Lleol, yn ogystal â gardd dawel â wal o’i chwmpas ac ardal fioamrywiaeth gyda phyllau, dolydd ac ardaloedd coediog. Mae'r parc yn gartref i dri o blanhigion brodorol prin a choed llwyfen llydanddail aeddfed sy’n anghyffredin iawn. Mae Pentre Mawr hefyd wedi cynnal seremonïau Eisteddfod - sy’n dyst bod y parc yn cynnig 'rhywbeth i bawb'.
Gallwch gyrraedd Pentre Mawr ar feic neu ar droed drwy ddilyn y llwybr arfordirol. Dilynwch y llwybr terfyn i gael mynediad i’r parc.
Cyfleusterau
Arall
- Croesewir Cerddwyr
Arlwyo
- Safle Picnic
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Awyr Agored
- Croesawgar i gŵn
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus