Nifer yr eitemau: 1085
, wrthi'n dangos 761 i 780.
Llandudno
Bwthyn gwyliau celfydd gyda’r holl gyfarpar angenrheidiol, gyda dwy ystafell wely, ym Mhenmorfa, sy’n cysgu 4 oedolyn. Gardd fach gaeedig â phatio, Wi-Fi ar gael, dillad gwely a gwasanaethau wedi eu darparu, a man parcio penodedig oddi ar y ffordd.
Betws-y-Coed
Tŷ Fictoraidd ar wahân ar ffordd ymyl dawel 2 funud ar droed o ganol Betws.
Llandudno
Rydyn ni’n fecws bara go iawn (surdoes) llawn steil yng Nghraig-y-don, Llandudno.
Llandudno
Mewn lleoliad canolog ar dir gwastad, ychydig funudau ar droed o ganol y dref a dau draeth hyfryd, Gerddi Haulfre, ac o fewn cyrraedd i’r tram a’r llethr sgïo.
Nr St Asaph
Canolfan gweithgareddau awyr agored mewn lleoliad trawiadol ond hygyrch ac sy’n cynnig dros 20 o weithgareddau tir a dŵr ar y safle.
Conwy
Mae Westfield yn fwthyn tair ystafell wely, llawn cyfleusterau sy’n cael ei gadw’n hyfryd.
Conwy
Bwyd stryd i fynd. Mae bron i bopeth yn cael ei wneud o’r newydd a’i goginio’n defnyddio cynhwysion lleol.
Llandudno
Bwydlen helaeth o brydau Cantoneg, a rhywfaint o brydau Siapaneaidd, sy’n cael eu gweini mewn awyrgylch ymlaciol.
Conwy
Siop fach glud yng nghanol Conwy sy’n orlawn o anrhegion a dillad diddorol.
Llandudno
Yn seiliedig ar y llyfr poblogaidd gan Claire Freedman a Ben Cort. Mae’r môr-ladron yma wrth eu boddau gyda dillad isaf!
Colwyn Bay
Mae tafarn Tal-y-Cafn yn sefyll yn falch mewn man croesi hanesyddol ar Afon Conwy.
Llandudno
Mae Gwesty Four Saints Brig-y-Don wedi’i leoli yng nghanol promenâd Llandudno. Mae golygfa odidog i’w gweld o’r ystafelloedd sy’n wynebu’r môr.
Llandudno
Os ydych yn chwilio am fwyd traddodiadol o safon mewn amgylchedd chwaethus a chroesawgar, dewch draw atom.
Llannefydd
Yng nghanol coetir hardd yn Nyffryn Elwy. Mae ein bwthyn yn lleoliad perffaith i ymlacio, gyda’r holl foethusrwydd cyfoes sydd gennych gartref.
Llandudno
Mae Poyntons yn siop Cigydd teuluol, traddodiadol o safon uchel, gyda siopau yn Llandudno a Hen Golwyn. Rydym yn cynnig gwasanaeth danfon i’r cartref ac i lety hunanddarpar.
Betws-y-Coed
Mae bwthyn Hendre Wen yn eiddo tair ystafell wely ar wahân wedi’i leoli ym Metws-y-Coed, Eryri.
Dolwyddelan
Ceir gwasanaeth rhagorol a chyfeillgar yn y dafarn fach deuluol hon.
Conwy
Wedi’i leoli yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy, mae Cantîn yn gweini coffi, brecwast, cinio, cacennau a mwy!
Betws-y-Coed
Erbyn heddiw Anna Davies yw manwerthwr annibynnol mwyaf yr ardal. Rydym yn gwerthu amrywiaeth fawr o eitemau yn cynnwys ffasiwn i ddynion a merched, pethau i’r cartref ac anrhegion.
Penmaenmawr
Tafarn wledig draddodiadol gyda chroeso cynnes Cymreig yng nghanol Dwygyfylchi.