Am
Porth Diwylliannol i Sir Conwy
Mae Canolfan Ddiwylliant Conwy dafliad carreg oddi wrth waliau tref ganoloesol ryfeddol Conwy.
Mae’r adeilad golau ac agored hwn, a gwblhawyd yn 2019, wedi cymryd ei le’n dda ym Mharc Bodlondeb ac mae’n gartref i archifau sirol, llyfrgell ardal, arddangosfeydd treftadaeth, caffi a chanolbwynt celfyddydau cymunedol newydd sbon.
Mae’n fan cychwyn gwych ar gyfer eich siwrnai trwy hanes Sir Conwy. Mae’r arddangosfeydd yn mynd ag ymwelwyr trwy bum mil o flynyddoedd o hanes ac mae’n cynnwys gwrthrychau unigryw, gwaith celf hyfryd a dehongliad rhyngweithiol sy’n addas i’r teulu cyfan.
Llyfrgell a llawer mwy; dyma loches, lle i ymlacio neu wneud tipyn o waith. Rhywle i eistedd ac ymlacio gyda llyfr da a choffi.
Ydych chi erioed wedi rhoi cynnig ar ymchwilio i hanes lleol neu hanes teulu? Dyma’r cyfle perffaith, gyda staff cyfeillgar wrth law i’ch helpu i ddechrau arni.
Yn yr ardaloedd wedi’u tirlunio o amgylch y ganolfan mae gardd synhwyraidd heddychlon gyda llwybrau a seddi hygyrch sy’n ystyriol i bobl â dementia. Gallwch wrando ar leisiau lleol yn adrodd eu storïau wrth i chi eistedd ar fainc sain ac edmygu'r planhigion meddyginiaethol yn yr Ardd Ffisig; sy'n cydnabod hanes mynachaidd cyfoethog Conwy cyn y castell.
Mae’r Ganolfan Ddiwylliant yn hygyrch i bawb.
Mae cyfleusterau newid babi, dolen glyw a dehongli Iaith Arwyddion Prydain ar gael.
Mae Canolfan Ddiwylliant Conwy yn gweithio tuag at fod yn ystyriol o bobl â dementia.
Cyfleusterau
Arlwyo
- Caffi/bwyty ar y safle
Hygyrchedd
- Mae Pob Ardal yn Hygyrch i Ymwelwyr Anabl
Ieithoedd a siaredir
- Iaith Arwyddion
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Dan Do
- Mewn tref/canol dinas
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael