Yn gryno. Lleoliad mynyddig garw, cadarnle tywysogion Cymru.
Saif pentref Dolwyddelan, ar y briffordd rhwng Blaenau Ffestiniog a Betws-y-Coed, yng nghysgod y mynyddoedd a rhai o diroedd cerdded mwyaf gwyllt ac anial Eryri. I’r gogledd daw mawredd Moel Siabod i’r golwg, golygfa sydd hyd yn oed yn fwy dramatig os dringwch i ben murfylchau Castell Dolwyddelan i’w mwynhau.
Yn wahanol i gestyll crand Caernarfon a Chonwy a godwyd gan y Brenin Edward I i oresgyn y Cymry, adeiladwyd Castell Dolwyddelan gan Dywysogion brodorol Cymru. Mae’n hawdd gweld pam y dewisodd Llywelyn Fawr y safle strategol hwn ar grib uchel uwchlaw Dyffryn Lledr pan gododd ei gaer ar ddechrau’r 13eg ganrif. Heb os, roedd hwn yn safle daearyddol arbennig iawn, ond efallai iddo ddewis Dolwyddelan am resymau personol gan mai yma y cafodd ei eni. Roedd yn gyfnod cythrybulus – yn ddiweddarach y ganrif honno fe gipiodd Edward y castell a’i ail-lunio i’w ddibenion ei hun. Diolch i waith trwsio a gwblhawyd yn ystod oes Victoria, nid yw Castell Dolwyddelan yn edrych mor hynafol â rhai o’r cadarnleoedd unig a mynyddig eraill a godwyd tua’r un cyfnod.
Dod o hyd i lety yn Nolwyddelan a darganfod pa ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal pan fyddwch yn aros yn yr ardal.