Am
Cadarnle Cymreig aruchel mewn lleoliad mynydd trawiadol. Mae Dolwyddelan mor Gymreig â mynyddoedd geirwon Eryri sy’n gefnlen drawiadol iddo.
A’r castell yn un o griw o gaerau a adeiladwyd i reoli’r bylchau mynydd, saif yn gofeb barhaol i’r Tywysog Llywelyn ap Iorwerth, neu Llywelyn Fawr. Ef oedd rheolwr diamau Gwynedd o 1201 i’w farwolaeth ym 1240.
Ond gorchfygwyd Dolwyddelan o’r diwedd yn ystod teyrnasiad ei ŵyr Llywelyn ap Gruffudd gan frenin Lloegr, Edward I. Roedd hwn yn gyfnod allweddol yn ei ymgyrch ddidostur i ddarostwng y Cymry unwaith ac am byth.
Cyfleusterau
Marchnadoedd Targed
- Hwyl i'r Teulu
- Wedi'i Farchnata ar gyfer Teuluoedd
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Awyr Agored
- Yn y wlad