Nifer yr eitemau: 1082
, wrthi'n dangos 981 i 1000.
Llandudno
Ystafelloedd te chwaethus gyda thema Alys yng Ngwlad Hud yn gweini brechdanau, teisenni a thatws trwy'u crwyn.
Penmaenmawr
Chwe bwthyn gwyliau helaeth ar ystâd breifat ar ochr bryn ym Mhenmaenmawr, gyda golygfeydd godidog, a physgodfa brithyll gwych ar y safle.
Llandudno
Siop fach llawn ffyn roc a melysion eraill i gyd am brisiau fforddiadwy. Beth arall allech chi ofyn amdano pan ydych wrth lan y môr?
Colwyn Bay
Mae Canolfan Planhigion, Anrhegion a Chrefft Bodnant ger gardd enwog 80 erw Bodnant. Dychmygwch gymryd darn bach o Fodnant adref gyda chi i’w fwynhau!
Betws-y-Coed
Mae Coedfa Bach yn cysgu 4. Hen chwarter y gweision i’r tŷ Fictoraidd cysylltiedig, Coedfa House sy'n cysgu 8 o bobl.
Dolgarrog
Wedi’i leoli yn harddwch Dyffryn Conwy rhwng Trefriw a Dolgarrog, mae Drysle Dyffryn Conwy’n unigryw.
Betws-y-Coed
Mae Bwthyn Tyn y Fron ym Metws-y-Coed, y Porth i Barc Cenedlaethol Eryri. Rydym hefyd yn agos at arfordir a mynyddoedd Gogledd Cymru.
Llandudno
Tafarn brysur â bwyd da a chwrw go iawn i deuluoedd yng nghanol Llandudno.
Rhos-on-Sea
Croeso i Number 25 - y bar a’r bistro lleol yn Llandrillo-yn-Rhos. Wedi’i leoli ar Rodfa Penrhyn (yn rhif 25 i fod yn benodol!) yng nghanol y pentref hyfryd hwn, mae Number 25 yn gweini bwyd a diodydd bum noson yr wythnos.
Llandudno
Rydyn ni’n gaffi cyfeillgar wedi’i leoli ar Clonmel Street, ddim yn bell o’r môr yn nhref glan môr hardd Llandudno.
Betws-y-Coed
Mae Sŵn-y-Dŵr yn fwthyn gwyliau traddodiadol gyda theimlad modern a chyfoes sydd wedi’i leoli yng nghanol Betws-y-Coed, Parc Cenedlaethol Eryri ac yn cysgu hyd at 11 o bobl.
Llanrwst
Nwyddau cartref bendigedig ac unigryw a siop anrhegion yng nghanol Gogledd Cymru yn Llanrwst, yn gwerthu nwyddau cartref bendigedig o Gymru ac anrhegion o amgylch y DU.
Colwyn Bay
Gwasanaeth tacsi ar gyfer Bae Colwyn a’r ardaloedd cyfagos.
Betws-y-Coed
Mae pob dyfais fodern i’w chael yn ein 3 bwthyn hunanarlwyo moethus. Lle i 1-4 o bobl gysgu. Dwy filltir o bentref prydferth Betws-y-Coed.
Colwyn Bay
Dafliad carreg o’r môr a thraeth hyfryd Porth Eirias y mae bistro Bryn Williams. Mae’r fwydlen yn llawn cynnyrch Cymreig sydd wedi cael ei gynhyrchu mor lleol â phosibl.
Llandudno
Mae The Elm Tree yn eiddo 4*, 14 ystafell wely bwtîc, sydd wedi'i leoli yn ddelfrydol gyferbyn â phier eiconig Llandudno, sy'n cynnig golygfeydd godidog o'r Bae a'r Promenâd.
Betws-y-Coed
Mae gan Glwb Golff Betws-y-Coed gwrs golff naw twll taclus dros ben, sydd wedi’i leoli yng nghalon Gogledd Cymru, ar odre trawiadol mynyddoedd Eryri sy’n ardal o harddwch naturiol eithriadol.
Llandudno
Dewis gwych o randai glan y môr. 3 rhandy mawr (1 a 2 ystafell wely, yn cysgu 2-5) mewn adeilad Fictoraidd rhestredig ychydig lathenni o’r môr ar y promenâd.
Penrhyn Bay, Llandudno
Llandudno
Mae llety gwesteion bwtîc Lansdowne House wedi’i leoli yng nghysgod llethrau'r Gogarth yn Llandudno.