Nifer yr eitemau: 1532
, wrthi'n dangos 1441 i 1460.
Llandudno
Yn agos at Drwyn y Fuwch, mae’n ddelfrydol er mwyn ymweld â’r theatr neu er mwyn crwydro’r ardal.
Betws-y-Coed
Gwesty Tŷ Gwledig 4 seren sydd wedi ennill gwobr Aur gyda bwyty Dau Rosette. Mae’r gwesty wedi’i leoli mewn lleoliad a edmygir yn fawr, i lawr dreif hir breifat ar lan Afon Conwy ar gyrion Betws-y-Coed yn Eryri.
Betws-y-Coed
Mae bwydlen bwyty Bridge wedi'i neilltuo ar gyfer cynnyrch lleol a thymhorol. Mae Bar 1815 yn gartref i ddetholiad anhygoel o jin o bedwar ban byd gyda nodwedd amlwg ar jin o Gymru.
Llanrwst
Nwyddau cartref bendigedig ac unigryw a siop anrhegion yng nghanol Gogledd Cymru yn Llanrwst, yn gwerthu nwyddau cartref bendigedig o Gymru ac anrhegion o amgylch y DU.
Conwy
Siop fach sy’n arbenigo mewn caws arbennig ac yn falch o hyrwyddo amrywiaeth o gawsiau lleol a bwydydd deli.
Llandudno
Bwthyn gwyliau celfydd gyda’r holl gyfarpar angenrheidiol, gyda dwy ystafell wely, ym Mhenmorfa, sy’n cysgu 4 oedolyn. Gardd fach gaeedig â phatio, Wi-Fi ar gael, dillad gwely a gwasanaethau wedi eu darparu, a man parcio penodedig oddi ar y ffordd.
Betws-y-Coed
Rydym yn sefydliad nid er elw sy’n anelu at gefnogi artistiaid proffesiynol lleol drwy arddangos a gwerthu eu gwaith yn ein galerïau, ar wefannau ac mewn arddangosfeydd eraill.
Colwyn Bay
Mae tafarn Tal-y-Cafn yn sefyll yn falch mewn man croesi hanesyddol ar Afon Conwy.
Penmaenmawr
Cyfleusterau hwylio ardderchog gyda 18 o gychod y clwb ar gael i roi cynnig ar hwylio. Yn hwylio’n rheolaidd ddydd Sadwrn a dydd Sul o fis Ebrill.
Upper Colwyn Bay
Does dim byd arbennig am du blaen Pen-y-Bryn, ond y tu mewn fe welwch loriau derw hyfryd, tanau agored, cypyrddau llyfrau a hen ddodrefn.
Dolwyddelan
Bwthyn gwyliau Rhestredig Hanesyddol Gradd II yw Tŷ Capel Isa gyda chyfleusterau modern yn cysgu hyd at 3 o westeion.
Colwyn Bay
Siop pysgod a sglodion traddodiadol gyda chyfleuster bwyd i fynd a bwyty trwyddedig.
Llandudno
Mae siop adrannol Clares yn Llandudno wedi bod yn sefydliad ers dros ganrif ac mae’n parhau i fod yn ganolbwynt i ardal siopa’r dref, i siopwyr lleol yn ogystal ag i’r llu o bobl sy’n ymweld â Llandudno.
Llanrwst
Mae Tu Hwnt i’r Bont yn adeilad rhestredig Gradd II o’r 15fed Ganrif ac yn ystafell de yn Llanrwst. Mae bwthyn adnabyddus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn sefyll ar lan Afon Conwy, yr ochr draw i’r Bont Fawr.
Denbigh
Mae'r coetir deilgoll hynafol hwn yn gorchuddio ochrau serth cwm un o lednentydd Afon Ystrad.
Colwyn Bay
Mae gennym bedwar tŷ gwyliau ym mhentref Glan Conwy. Mae pob tŷ yn cysgu dau berson.
Rhos-on-Sea
Tamaid bychan o nefoedd y De ar arfordir Gogledd Cymru yn Llandrillo-yn-Rhos, gyda gardd dawel ar gyfer bwyta a maes parcio mawr.
Conwy
Mae Water View Cottage a Harbour Cottage yn sefyll yn falch wrth ymyl y dŵr sy’n eithaf unigryw yng Nghonwy.