Christmas

Prif Gynigion

  1. Go Below

    Anturiaethau Tanddaearol Go Below

    Tynnwch y straen o siopa Nadolig a rhowch brofiad yn anrheg eleni!

    Mae Go Below yn cynnig anturiaethau dan ddaear sy’n mynd â chi yn ddwfn i grombil Eryri.

    Gallwch fynd ar y wifren wib, abseilio a dringo i lawr i’r dyfnderoedd eithaf i archwilio’r byd cudd sydd y tu ôl i’r mynyddoedd a darganfod hanes rhyfeddol treftadaeth lechi Cymru.

    Profwch deithiau tanddaearol am hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan drwy hen fwyngloddiau Eryri, beth bynnag fo’r tywydd! Mae’n berffaith ar gyfer teuluoedd anturus a’r rhai sy’n chwilio am adrenalin.

    Mae tocynnau anrheg ar gyfer y Nadolig ar gael nawr.

  2. Llyn Brenig

    Cronfa Ddŵr a Chanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig

    Llwybr Goleuadau Nadolig a Groto Hudol Siôn Corn

    Y Nadolig hwn ymunwch â ni yn Llyn Brenig ar gyfer gwledd arbennig i’r teulu.

    Bydd llwybr hudol o oleuadau yn arwain at Groto Siôn Corn lle bydd plant yn cyfarfod Siôn Corn ac yn sgwrsio gydag ef am eu breuddwydion a’u dymuniadau dros y Nadolig cyn derbyn anrheg.

    Bydd llawer o grefftau i’w gwneud ar hyd y ffordd gyda chyfle i liwio, gwneud cerdyn Nadolig ac addurn.

    £10 y plentyn

    Bydd Caffi Brenig ar agor ac yn gweini bwydlen yn null bwyd i fynd gan gynnwys bwyd poeth.

    Dydd Gwener 6 Rhagfyr, Sadwrn 7 Rhagfyr a Sul 8 Rhagfyr 2024.

    4pm – 6.30pm

     

    Rwyf wedi atodi rhai lluniau hefyd.

  3. Royal Oak

    Gwesty’r Royal Oak

    Mae’r cyfan yn cychwyn ym mis Tachwedd wrth i deras awyr agored Y Stablau droi’n rhyfeddod gaeafol, a gyda’r coed traddodiadol wedi eu haddurno yn y Royal Oak a’r golau disglair mae yma hafan gysurus ar gyfer tymor y gaeaf. 

    Gyda bwyd y tu allan, carolau a chanhwyllau, nosweithiau parti, bwyd tymhorol blasus a choctels Nadoligaidd, mae gennym ni ddigon i’w ddathlu dros dymor yr Ŵyl!

    Mae Marchnad Nadolig Cynhyrchwyr Eryri a’r Fro, lle caiff cynnyrch lleol eu harddangos, yn dychwelyd ac mae’n berffaith ar gyfer penwythnos o brynu anrhegion.

  4. Mynydd Sleddog Chrstmas

    Mynydd Sleddog Adventures Ltd

    Profwch hud y Nadolig gydag Anturiaethau Mynydd Sleddog wrth i’w cŵn hysgi mawreddog fynd â chi ar daith sledio fythgofiadwy trwy dirweddau Hiraethog! Mynydd Sleddog Adventures Ltd

    Prynwch eich talebau reidiau hysgi rŵan a rhowch brofiad anarferol y byddant yn ei drysori am byth i’ch anwylyd!

    Beth am ei baru gydag un o’u cardiau wedi’u gwneud â llaw, tedis hysgi plwsh neu Noddwch Gi am anrheg sy’n parhau i roi - bydd 10% o bob pryniant yn mynd i SADRA (Cymdeithas Cŵn Chwilio ac Achub Cymru)

    https://bit.ly/44ydx6o

Cynigion Eraill

  1. Dunoon xmas

    Bwyty Next Door - Gwesty Dunoon

    Cynhesrwydd y gaeaf yn Next Door

     Wrth iddi nosi’n gynt ac wrth i’r tymheredd ostwng, bydd bwydlenni newydd y gaeaf ym Mwyty Next Door yn Llandudno…

  2. The Good Soap

    The Good Soap

    Mae casgliad Nadolig poblogaidd o sebonau a chynnyrch gofal croen The Good Soap yn ôl ar gyfer 2024! Mae’r holl gynnyrch, sy’n addas fel anrhegion i…

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....