Anturiaethau Tanddaearol Go Below, Betws-y-Coed

Am

Mae Go Below yn fusnes teuluol sydd wedi ennill gwobrau, sy’n cynnig anturiaethau tanddaearol, beth bynnag y tywydd.

Profwch deithiau tanddaearol am hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan drwy’r hen fwyngloddiau yng nghrombil Eryri. Mae dewis o tri o anturiaethau unigryw sy’n amrywio o ran yr her a’r cyffro. Does dim angen unrhyw brofiad, ac ni fydd yno unrhyw wasgu drwy ogofeydd a thyllau cyfyng.

Mae ein taith Her Go Below (10+) yn brofiad 5 awr, sy’n mynd trwy amgylchedd tanddaearol hudol. Byddwch yn gweld arteffactau hynafol, yn mynd ar gwch ar draws llynnoedd glas angof, yn dringo wynebau creigiau, ac yn abseilio o ddibynnau gyda chymorth ein tywyswyr profiadol.

I’r rhai sydd eisiau gwthio eu hunain ymhellach, mae ein taith Hero Xtreme (14+) yn 6 awr o grwydro’r chwarel lechi mwyaf a’r dyfnaf yn y byd! Profwch eich gallu meddyliol a chorfforol wrth lywio drwy lwybrau, pontydd a gwifrau sip cyffrous, gyda siawns i gael egwyl ar ein mainc bicnic Xtreme, sy’n hongian o wyneb craig anferthol!

Ar gyfer yr antur fythgofiadwy gorau bosibl, gwthiwch eich hun i’r eithaf ar ein taith Ultimate Xtreme 7 awr (18+). Os ydych chi’n anturiwr rheolaidd neu os ydych chi eisiau bod yn ddewr a goresgyn eich ofnau, mae ein taith Ultimate Xtreme yn antur danddaearol unigryw o’r radd flaenaf, gan gynnwys dringfeydd heriol fel y ‘corkscrew’, nifer o wifrau sip, yr unig naid rydd danddaearol yn y byd a’r reid sip danddaearol hiraf a’r dyfnaf yn y byd: ‘Goliath’.

Arweinir ein holl deithiau yn bersonol gan dywyswyr profiadol ac angerddol, a fydd yn eich cadw yn ddiogel ac yn eich annog i fentro. Bydd ein harweinwyr hefyd yn dangos cip i chi o’r diwydiant lechi a’i hanes drwy arteffactau hynafol sydd i’w gweld ar hyd y ffordd, yn yr amgylchedd sydd heb ei gyffwrdd.

Bydd esgidiau ac offer diogelwch yn cael eu darparu i chi. Yn agored drwy’r flwyddyn. Mae cyfyngiadau oedran yn gymwys. Gwiriwch y prisiau, argaeledd ac archebwch ar ein gwefan www.go-below.co.uk neu drwy ffonio’r swyddfa docynnau ar 01690 710108. Mae’r swyddfa docynnau yn agored bob dydd o 9am tan 5pm. 

Pris a Awgrymir

Math o DocynPris Tocyn
Oedolyn£59.00 fesul math o docyn

Prisiau o £59 y person. Rhestr llawn or prisiau ar gael ar eu gwefan. Disgownt ar gael i grwpiau.

Cyfleusterau

Arlwyo

  • Caffi
  • Pecyn cinio ar gael
  • Yn darparu ar gyfer llysfwytawyr

Cyfleusterau Darparwyr

  • Cawodydd
  • Croesewir grwpiau un rhyw, e.e. parti plu / penwythnos stag
  • Cymorth Cyntaf
  • Hyfforddwyr cymwys
  • Lefel ffitrwydd ofynnol - canolig
  • Lefel profiad - dechreuwr
  • Mae croeso i bobl nad ydynt yn aelodau
  • Offer/dillad am ddim
  • Siop
  • Toiledau
  • Yn darparu ar gyfer grwpiau ysgolion
  • Yswiriant wedi'i gynnwys

Dulliau Talu

  • Derbynnir MasterCard
  • Derbynnir y prif gardiau credyd

Nodweddion Darparwr

  • Yn y wlad

Parcio a Thrafnidiaeth

  • Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
  • Maes parcio
  • Parcio ar y safle

Plant a Babanod

  • Yn derbyn plant (isafswm oedran)

Teithio a Masnachu

  • Disgownt ar gael ar gyfer grwpiau
  • Wi-fi ar gael

Teithio Grw^p

  • Derbynnir bysiau

Cynigion Arbennig Cysylltiedig

  • Tynnwch y straen o siopa Nadolig a rhowch brofiad yn anrheg eleni!

    Mae Go Below yn cynnig anturiaethau dan ddaear sy’n mynd â chi yn ddwfn i grombil Eryri.

    Gallwch fynd ar y wifren wib, abseilio a dringo i lawr i’r dyfnderoedd eithaf i archwilio’r byd cudd sydd y tu ôl i’r mynyddoedd a darganfod hanes rhyfeddol treftadaeth lechi Cymru.

    Profwch deithiau tanddaearol am hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan drwy hen fwyngloddiau Eryri, beth bynnag fo’r tywydd! Mae’n berffaith ar gyfer teuluoedd anturus a’r rhai sy’n chwilio am adrenalin.

    Mae tocynnau anrheg ar gyfer y Nadolig ar gael nawr.

    Christmas - redeem this special offer from 10/10/2024

    Dolen y cynnig:Christmas

TripAdvisor

TripAdvisor

Sgôr Teithwyr TripAdvisor:

5 o 5 sêr
    • Ardderchog
      1736
    • Da iawn
      60
    • Gweddol
      11
    • Gwael
      8
    • Ofnadwy
      6

    Adolygiadau Diweddar:

      Map a Chyfarwyddiadau

      Anturiaethau Tanddaearol Go Below

      Canolfan Chwaraeon Antur

      Conwy Falls Forest Park, Pentrefoelas Road, Penmachno, Conwy, LL24 0PN

      Sgôr Teithwyr TripAdvisor

      Sgôr Teithwyr TripAdvisor - 1821 adolygiadau1821 adolygiadau

      Ffôn: 01690 710108

      Amseroedd Agor

      Ar agor (1 Ion 2024 - 31 Rhag 2024)
      DiwrnodAmseroedd
      Dydd Llun - Dydd Sul09:00 - 17:00

      * Arweiniad yn unig yw’r oriau agor a gallent newid. Gwiriwch gyda’r gweithredwr cyn gwneud siwrne arbennig.

      Beth sydd Gerllaw

      1. Teithiau trwy 9.5 erw o goedwig gynhenid at raeadr drawiadol Conwy. Mynediad ar hyd tir…

        0 milltir i ffwrdd
      2. Mae Amgueddfa Rheilffordd Dyffryn Conwy yn ddiwrnod allan gwych i deuluoedd. Treuliwch…

        2.14 milltir i ffwrdd
      3. Adeiladwyd yr eglwys yn y 14eg Ganrif a hwn yw’r adeilad hynaf ym Metws-y-Coed. Mae…

        2.18 milltir i ffwrdd
      4. Mae Zip World Fforest wedi’i leoli yng nghanol harddwch Dyffryn Conwy, ychydig y tu allan…

        2.43 milltir i ffwrdd
      1. Er bod Cwm Wybrnant yn fan tawel ac anghysbell heddiw, mae’r lleoliad yn arwyddocaol iawn…

        2.88 milltir i ffwrdd
      2. Mae’r Rhaeadr Ewynnol yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol lle mae’r Afon Llugwy’n…

        3.88 milltir i ffwrdd
      3. Coedwig o lynnoedd a mynyddoedd yng nghanol Eryri. Mae Parc Coedwig Gwydir yn gartref i…

        3.94 milltir i ffwrdd
      4. Cymdeithas Eryri sy’n gofalu am Tŷ Hyll. Mae pwy adeiladodd y tŷ a phryd yn parhau’n…

        4.23 milltir i ffwrdd
      5. Dechreuwyd gwaith adeiladu’r capel ym 1673, ac mae tu allan carreg syml y capel yn rhoi…

        4.66 milltir i ffwrdd
      6. Mae Castell Gwydir yn dŷ Cymreig hynafol yn harddwch Dyffryn Conwy, ar odre Eryri. Caiff…

        4.75 milltir i ffwrdd
      7. Eglwys hanesyddol Gradd I a godwyd yn 1470, sy’n edrych dros afon Conwy yng nghanol…

        5.08 milltir i ffwrdd
      8. Cadarnle Cymreig aruchel mewn lleoliad mynydd trawiadol. ​​​​​Mae Dolwyddelan mor Gymreig…

        5.24 milltir i ffwrdd
      9. Mae llyn dwfn naturiol Llyn Aled yng nghanol rhostiroedd uchel Hiraethog. Mae’n safle…

        7.3 milltir i ffwrdd
      10. Wedi’i leoli yn harddwch Dyffryn Conwy rhwng Trefriw a Dolgarrog, mae Drysle Dyffryn…

        8.18 milltir i ffwrdd
      11. Wedi'i amgylchynu gan dirweddau godidog Gogledd Cymru, mae Sba ‘Wave Garden’ ym Mharc…

        9.06 milltir i ffwrdd
      12. Mae Cronfa Ddŵr Alwen yn llyn 900 erw - y llyn gwneud mwyaf yng Nghymru. Mae yna lwybr o…

        9.12 milltir i ffwrdd
      Previous Next

      Cysylltiedig

      The Deep SleepThe Deep Sleep, Betws-y-CoedDeep Sleep is an adventure like no other on Earth! This newest epic experience from Go Below Underground Adventures leads you down through an abandoned Victorian Slate Mine to a remote off-grid adventure camp, a staggering 1,375 feet below the mountains of Snowdonia! This is the deepest underground…

      Peidiwch â Methu....

      Peidiwch â Methu....

      Peidiwch â Methu....

      Peidiwch â Methu....

      Peidiwch â Methu....

      Peidiwch â Methu....

      Peidiwch â Methu....

      Peidiwch â Methu....