Am
Llety gwely a brecwast coeth, tawel gyda naw ystafell wely ag en-suite, pob un â golygfeydd godidog o fae prydferth Llandudno. Mae’r perchnogion, sydd wedi cael eu hyfforddi ar longau QE2 a QM2, yn darparu gwasanaeth uwchraddol ac mae pob rhan o’r llety yn hynod lân a hyfryd.
Mae ystafelloedd llawr gwaelod ar gael. Mae’r holl ystafelloedd wedi’u haddurno i safon uchel iawn gyda lliwiau a dodrefn moethus. Dillad gwely gwyn ffres, tywelion gwyn gwlanog a phethau ymolchi am ddim. Mae hambwrdd lletygarwch hael ym mhob ystafell. Gweinir brecwast yn ein hystafell fwyta sy’n edrych dros y môr. Fe welwch fod y manylion bach yn The Stratford yn golygu llawer ac yn dweud y cyfan yn syth ar ôl i chi gamu drwy'r drws. Mae’r theatr a’r ganolfan gynadledda o fewn pellter cerdded. Parcio am ddim ar y stryd. Gallwch archebu’n uniongyrchol ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru.
Mae croeso i chi ein ffonio ni am fwy o wybodaeth ac i archebu!
Pris a Awgrymir
- Nifer yr Ystafelloedd / Unedau
- 9
Ystafell / Uned Math | Ystafell / Uned Tariff* |
---|---|
Ystafell Ddwbl | £80.00 yr ystafell (yn cynnwys brecwast) |
Ystafell Deulu | £95.00 yr ystafell (yn cynnwys brecwast) |
Ystafell Sengl | £60.00 yr ystafell (yn cynnwys brecwast) |
Ystafell Twin | £80.00 yr ystafell (yn cynnwys brecwast) |
*Fel canllaw, rhoddir prisiau fesul ystafell fesul noson ar gyfer gwestai, gwestai bach, gwely a brecwast, fflatiau â gwasanaeth a fesul wythnos am lety hunanddarpar.
Noder: Canllaw yn unig yw'r prisiau a gallant newid yn ddyddiol.
Cyfleusterau
Arall
- Credit cards accepted
- Short breaks available
- Special diets catered for
- Tea/Coffee making facilities in bedrooms
- Totally non-smoking establishment
- TV in bedroom/unit
- Wireless internet
Cyfleusterau Darparwyr
- Wifi ar gael
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Nodweddion Darparwr
- Glan y môr
Nodweddion Ystafell/Uned
- Ystafelloedd gwely llawr gwaelod ar gael