Am
‘Dod o hyd i Alys’
Yn y naratif hudolus hwn, mae Alys wedi cael ei gwahodd yn gynnes gan yr Hetiwr Hurt i ddathlu ei Pharti Amhen-blwydd. Ond yn anffodus nid yw Alys yn cyrraedd y parti. Yn llawn pryder, mae’r Hetiwr Hurt yn galw am help gan y rheiny sy'n barod i gychwyn ar daith i ddod o hyd i Alys ac achub y Wlad Hud. Wrth i gred plant yn yr amhosib wanhau, mae'r ffiniau a fu unwaith yn anhreiddiadwy rhwng y Wlad Hud a'n byd ni, y Trostir, yn dechrau dadfeilio, gan ganiatáu i greaduriaid Y Wlad Hud grwydro.
Mae “Dod o hyd i Alys,” yn gêm ymdrochol sy'n cludo chwaraewyr i fyd hudolus Y Wlad Hud, lle maen nhw'n cychwyn ar gyrch sy'n llawn posau, codau, a heriau rhyngweithiol. Caiff cyfranogwyr eu harwain gan gymeriadau o'r stori annwyl hon i archwilio eu hamgylchedd, datrys posau, a gwneud penderfyniadau hanfodol yn eu cenhadaeth i ddod o hyd i Alys ac achub Y Wlad Hud.
Nid gêm yn unig yw “Dod o hyd i Alys”; mae'n antur sy'n gyfuniad o archwilio corfforol ag arloesi digidol, gan annog chwaraewyr i weld lleoedd cyfarwydd mewn ffyrdd newydd a rhyngweithio â'r byd o'u cwmpas mewn dulliau cwbl newydd. Trwy’r profiad hwn, mae anturiaethwyr o bob oed yn camu i mewn i stori sydd wedi’i saernïo’n fanwl, gan brofi unwaith eto eu gallu i greu bydoedd i bobl fynd ar goll ynddynt.
Pris a Awgrymir
Math o Docyn | Pris Tocyn |
---|---|
Adult | £15.00 oedolyn |
Child | £7.50 plentyn |
Under 10's free
Cyfleusterau
Marchnadoedd Targed
- Hwyl i'r Teulu
Nodweddion Darparwr
- Croesawgar i gŵn