Am
Mae lein Dyffryn Conwy yn rhan o’r Rhwydwaith Rheilffrdd Cenedlaethol. Mae’n rhedeg wrth ochr un o afonydd mwyaf Cymru, Afon Conwy, wedyn yn dilyn glannau’r Afon Lledr wyllt, wedi iddi uno ag Afon Conwy ym Metws-y-Coed.
O’ch cychwyniad ger lan y môr yn Llandudno, hyd gyrraedd dyffrynnoedd dwfn Blaenau Ffestiniog, cewch amrywiaeth aruthrol o olygfeydd yn pasio o flaen eich llygaid. O gastell hanesyddol Conwy, heibio aber sy’n heigio o fywyd gwyllt, i fryniau lechweddog sy’n ildio i greigiau urddasol, wrth i’r trên groesi’r Afon Lledr wrth draphont drawiadol Pont Gethin.
Fe gewch gipolwg ar dirweddau arallfydol, fel petaent o fyd y tylwyth teg; castell mawreddog Dolwyddelan o’r 12fed Ganrif, chwareli a lonydd hynafol, a choedwigoedd a chopaon uchel Eryri, cyn plymio i grombil y mynydd ac ailymddangos ychydig funudau’n ddiweddarach yn nhir diwydiannol hanesyddol Blaenau Ffestiniog, wrth union galon diwydiant chwarelyddol a chloddio llechi Cymru.
Yn sicr mae lein Dyffryn Conwy, a hithau’n 27 milltir o hyd, yn cynnig un o’r profiadau rheilffordd prydferthaf ym Mhrydain.
Gwyliwch ein fideo diweddaraf yma - Rheilffordd Dyffryn Conwy.
Cyfleusterau
Arall
- Croesewir Cerddwyr
Cyfleusterau Darparwyr
- Toiledau
Deunydd Argraffedig mewn Ieithoedd Arall
- Deunydd Argraffedig Cymraeg
Hygyrchedd
- Caniateir Cw^n Cymorth
- Mynediad wedi'i wella ar gyfer ymwelwyr â nam ar eu golwg
- Toiledau ar gyfer Ymwelwyr Anabl
Marchnadoedd Targed
- Hwyl i'r Teulu
- Wedi'i Farchnata ar gyfer Teuluoedd