Os ydych yn chwilio am bethau i’w gwneud yng ngogledd Cymru, dyma’r lle i chi! Mae Sir Conwy yn gartref i nifer o brif atyniadau gogledd Cymru. P’un a ydych yn chwilio am atyniadau ar lan y môr i fwynhau awel ffres y môr, neu os ydych awydd mentro ymhellach i’r mewndir i edmygu mynyddoedd Eryri, mae gennym atyniadau perffaith i’r teulu cyfan eu mwynhau.
Yr atyniadau gorau yng ngogledd Cymru
Yn 2022, ymwelodd bron i 9 miliwn o bobl â Sir Conwy, sef y sir a gafodd y nifer fwyaf o ymweliadau yng ngogledd Cymru. Y rheswm syml am hyn yw bod nifer o brofiadau gwych ar gael i bawb eu mwynhau. O anturiaethau mewndirol i reidiau car cebl ar Y Gogarth yn Llandudno, mae Sir Conwy yn cynnig profiadau unigryw a chyffrous i bob ymwelydd.
Ychydig o ysbrydoliaeth...
Am ddiwrnod hwyliog i’r teulu, ewch draw i’r Sw Mynydd Cymreig ym Mae Colwyn. Cewch fwynhau amryw o sgyrsiau am anifeiliaid a mynd am dro o gwmpas yr holl gaeadleoedd gan edmygu’r golygfeydd panoramig syfrdanol dros Fae Colwyn a Mynyddoedd y Carneddau.
Os yw’n well gennych chi lan y môr, gallwch fwynhau nifer o draethau hardd ledled y sir. Mae traethau Llanfairfechan, Penmaenmawr, Penmorfa a Thraeth y Gogledd, i enwi ond y rhai, ar gael i chi grwydro ac edmygu’r arfordir godidog. Neu gallwch fwynhau golygfeydd o’r môr o’r Gogarth yn Llandudno! Gallwch deithio i ben y Gogarth ar geir cebl enwog Llandudno neu Dramffordd Y Gogarth yn ystod y gwanwyn a’r haf, a cherdded i fyny yn ystod misoedd oer y gaeaf.
Gall y rheiny sydd am drochi eu hunain mewn hanes a diwylliant Cymreig fynd draw i Gastell Conwy sy’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Ar ôl edrych o gwmpas y castell beth am fynd am dro ar hyd muriau tref Conwy cyn mynd i lawr at Gei Conwy i edmygu’r Tŷ Lleiaf ym Mhrydain?
Lluniwch amserlen i’ch gwyliau
Felly, am beth ydych chi’n aros? Porwch trwy ein rhestr o atyniadau awyr agored a dechreuwch greu amserlen eich gwyliau heddiw. Cofiwch, gallwch ychwanegu syniadau trwy ddefnyddio ©. Unwaith i chi greu eich amserlen, mae’n amser pacio