Am
Mae Bryn Euryn yn fryn calchfaen amlwg uwchben Llandrillo-yn-Rhos, efo golygfeydd da o'r copa. Arno mae cymysgfa dda o laswelltir a choetir, efo rhan ohono yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Hefyd mae o ddiddordeb hanesyddol mawr, efo Llys Euryn - tŷ yn dyddio o'r 15ed Ganrif - a chaer o'r 6ed Ganrif ar ben y bryn. Mae rhwydwaith da o lwybrau yn ei wasanaethu, yn cynnwys Llwybr y Copa, sy'n cysylltu Llys Euryn a'r gaer ar y copa.
Mae taith gylch wedi ei harwyddo drwy'r coed. Mae taflen ar gael i'ch helpu i archwilio'r ardal sy'n rhoi gwybodaeth am hanes a bywyd gwyllt y lle.
Cyfleusterau
Arall
- Croesewir Cerddwyr
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Awyr Agored
- Croesawgar i gŵn
- Lleoliad Coedwig
- Yn y wlad
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle