Am
Trwyn y Fuwch yw’r pentir calchfaen i’r dwyrain o Landudno. Mae’n llai datblygedig na’i gymydog mwy ac enwog, Y Gogarth, gan olygu ei fod yn wych ar gyfer archwilio ac yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt. Mae’n hawdd cyrraedd ato wrth gerdded o Bromenâd Llandudno neu gyda beic (Llwybr 5 NCN).
Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yn rheoli 5 hectar o Drwyn y Fuwch, gwarchodfa natur Rhiwledyn. Gellir canfod planhigion nodedig glaswelltir calchfaen yma, megis y cor-rosyn a dibynlor llwyd, ac mae ardaloedd o brysg sy’n berffaith ar gyfer nifer o rywogaethau adar nythu. Efallai y byddwch yn ddigon ffodus i weld adar drycin y graig ar y clogwyni creigiog, a Mulfrain yn casglu deunydd nythu yn y gwanwyn.
Wrth archwilio ymhellach ar hyd ochr Bae Penrhyn o Drwyn y Fuwch, efallai bydd yr ymwelwyr yn ddigon lwcus i gael gweld morloi llwyd ym Mhorth y Dyniewaid. Mae paneli dehongli hefyd yn egluro hanes chwarela yn yr ardal.
Cyfleusterau
Arall
- Croesewir Cerddwyr
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Awyr Agored
- Croesawgar i gŵn