Am
Yn cynnig profiadau a hyfforddiant ar gyfer dringo creigiau, mynydda a cherdded ceunentydd ers 2017. Gweithio gyda chleientiaid o bob oedran a gallu sy’n rhoi’r pleser mwyaf i ni. Rydym yn cynnig ystod o sesiynau blasu cyffrous a llawn hwyl i’r rhai sy’n newydd i ddringo neu gerdded ceunentydd - yn addas ar gyfer pob oedran a gallu. Mae ein cyrsiau hyfforddi dringo a mynydda yn hyrwyddo arferion diogel a chynnig cyfle i bobl ddysgu sgiliau a fydd yn eu helpu i fod yn gerddwyr, dringwyr a sgrialwyr mwy annibynnol. Matt Jones sy’n rhedeg ac yn berchen ar Great Orme Vertical: “Cefais fy ngeni a’m magu yng Nghymru, ac rwyf wedi bod yn dringo a mynydda am 30 mlynedd a mwy. Yma yng Ngogledd Cymru ac ym mhedwar ban byd; ac rwy’n hyfforddwr yn y ddau faes ers y 1990au. Dechreuodd fy ngyrfa gan mod i’n teimlo’n angerddol am y chwaraeon, a’r mwynhad roeddwn yn ei gael drwy rannu’r angerdd hwnnw gyda phobl eraill. Rwy’n falch o’r enw da sydd gan Great Orme Vertical erbyn hyn, ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i gynnig anturiaethau a hyfforddiant gwych yn yr awyr agored”. Gydag ethos cryf o Beidio â Gadael Ein Hôl, rydym yn dilyn ffordd gynaliadwy wrth ymdrin â holl agweddau ein busnes.
Mae’r holl offer yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim. Bydd arnoch angen dillad sy’n addas ar gyfer cadw’n heini yn yr awyr agored. Mae’n hanfodol gwisgo esgidiau caeedig ar gyfer yr holl weithgareddau - mae esgidiau ymarfer neu fŵts/esgidiau cerdded yn ddelfrydol.
Gellir archebu ar-lein drwy ein gwefan, neu dros y ffôn.
Mae rhai gweithgareddau’n dibynnu ar y tywydd. Byddwn yn cadw mewn cysylltiad gyda chi bob amser, ac yn aildrefnu/ad-dalu pan fo angen. Rydym yn cynnig polisi archebu dim ymrwymiad.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Darparwyr
- Croesewir grwpiau un rhyw, e.e. parti plu / penwythnos stag
- Gwersi/cyrsiau ar gael
- Hyfforddiant i hyfforddwyr
- Hyfforddwyr cymwys
- Lefel ffitrwydd ofynnol - canolig
- Lefel profiad - dechreuwr
- Lefel profiad - uwch
- Mapiau llwybrau ar gael
- Offer/dillad am ddim
- Yn darparu ar gyfer digwyddiadau Corfforaethol
- Yswiriant wedi'i gynnwys
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Plant a Babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)