Am
Promenadau, Pierau, Pwnsh a Jwdi - yr holl elfennau hanfodol sy’n gysylltiedig â chyrchfan glan y môr ym Mhrydain. Gallwch ddod o hyd i’r rhain a llawer mwy yn Llandudno ar arfordir Gogledd Cymru.
Darganfyddwch pam mai’r corstir y tu ôl i Fae Llandudno a ddewiswyd ar gyfer tref glan y môr newydd a fyddai’n cystadlu yn erbyn cyrchfannau gwych Môr y Canoldir.
Dyma lwybr sain hunan-dywysedig hawdd 3 milltir o hyd a grëwyd gan Y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol gydag IBG.
Cerddwch ar hyd y strydoedd llydan a’r glan y môr crwm i werthfawrogi sut cafodd dyluniad y dref ei gynllunio’n ofalus. Edmygwch y gwestai cain a darganfyddwch am y rheoliadau er mwyn rheoli maint a dyluniad yr adeiladau. Ewch am dro bach tawel mewn gerddi taclus a’r wefr o gerdded ar hyd y pier.
Fe arferai Llandudno ddenu cwsmeriaid cyfoethog a fyddai’n dod i aros mewn gwestai arbennig am y tymor, yn ogystal â theuluoedd arferol o ddinasoedd diwydiannol a fyddai’n dod am wyliau blynyddol flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Tra bod gwyliau pecyn wedi bygwth nifer o gyrchfannau glan y môr ym Mhrydain, darganfyddwch sut mae Llandudno wedi addasu i’r amgylchiadau newidiol tra’n parhau i gadw’r cymeriad.
Er mwyn lawrlwytho’r llwybr sain a’r daflen, ewch i wefan Discovering Britain.
Cyfleusterau
Nodweddion Darparwr
- Arfordirol
- Croesawgar i gŵn
- Mewn tref/canol dinas
Suitability
- Teuluoedd